Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : About Nant
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Am y Nant

Pentref anghyfannedd oedd Nant Gwrtheyrn yn y 1970au yn dilyn cau y chwareli. Roedd y tai, y swyddfeydd, y capel a’r siopau, a godwyd pan oedd y chwareli yn eu hanterth rhwng 1860 a 1920, a dros 2,000 o ddynion yn cloddio’r ithfaen, yn wag ac wedi mynd â’u pennau iddynt.

Cafodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, elusen gofrestredig, ei ffurfio trwy ddycnwch y Meddyg Carl Clowes, meddyg teulu lleol, ac eraill, ac fe lwyddon nhw yn y pen draw i brynu’r pentref a mynd ati i adnewyddu’r hen adeiladau a datblygu canolfan ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion. Fe ddaeth y dyffryn tawel hefyd i ddenu grwpiau eraill i fwynhau ei naws unigryw.

Rhwng 2007 a 2010 cafodd y pentref rhestredig ei adnewyddu i greu canolfan breswyl unigryw, ac atyniad ar gyfer ymwelwyr dyddiol, drwy gymorth grant o £5m a ddaeth yn bennaf oddi wrth y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Bellach cynhelir nifer o wahanol weithgareddau, fel priodasau a chynadleddau yma yn ogystal â’r rhaglen o gyrsiau Cymraeg i oedolion drwy gydol y flwyddyn.

Mae Nant Gwrtheyrn yn elusen ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant sy’n dal i gael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn