Ydych chi’n ymddiddori mewn garddio?
Hoffech chi wirfoddoli’n y Nant?
Rydym yn chwilio am bobl leol sydd hefo diddordeb mewn rhoi rhywfaint o’u hamser i blannu llysiau a blodau yng Nghanolfan Iaith a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn.
Fe adeiladwyd y bythynnod yn 1878 ar gyfer y chwarelwyr oedd yn gweithio yn y dair chwarel ithfaen cyfagos. Pan oedd y chwareli yn eu hanterth, byddai gerddi’r pentref werth eu gweld. Braf fyddai gweld y lliw yn dychwelyd i’r Nant!
Oes gennych ychydig o amser sbâr er mwyn cadw llygad ar y datblygiadau yn ein border bach garddio newydd?
Hoffem dyfu : • Llysiau ar gyfer y Caffi
• Perlysiau
• Blodau mewn basgedi ac yn y gerddi pwrpasol sydd o flaen y bythynnod
Beth fyddech yn ei dderbyn gennym ni:• Diodydd yn ystod y dydd a chinio yng Nghaffi Meinir hefo’r dysgwyr Cymraeg
• Costau teithio - 30c y filltir
• Cewch ymaelodi gyda ffrindiau Nant Gwrtheyrn am ddim a chael pecyn gostyngiadau
• Gwahoddiad i ddigwyddiadau, nosweithiau cabaret a darlithoedd yn Nant Gwrtheyrn
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â’r pentref, cysylltwch hefo Catherine ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
Catherine@nantgwrtheyrn.org.
DIOLCH YN FAWR