Cyfeillion y Nant
Cynllun Aelodaeth Nant Gwrtheyrn
Cyfle i wneud eich rhan dros yr iaith ... ac arbed ychydig o arian ar yr un pryd!
Mae Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, sy’n gyfrifol am redeg y Ganolfan, yn gwmni cyfyngedig drwy warant ac yn elusen gofrestredig.
Mae bob ceiniog mae’r Ymddiriedolaeth yn ei dderbyn drwy dâl aelodaeth neu gyfraniadau yn gymorth mawr i ni.
Ym mha ffordd?
Bydd eich arian yn sicrhau y bydd yr Ymddiriedolaeth yn gallu parhau â’i waith o hybu’r Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth am y diwylliant Cymraeg, drwy helpu i gynyddu ac ehangu’r ddarpariaeth o gyrsiau ac adnoddau a gynigir.
Pa fanteision sydd yna o fod yn aelod?
- Gwybod eich bod chi’n rhan o dîm sy’n gweithio tuag at sicrhau dyfodol i’r iaith a’r diwylliant Cymraeg.
- 5% oddi ar gost ein holl gyrsiau.
- 5% oddi ar bris nwyddau yn y siop.
- Cyfle i fynychu Cyfarfod Blynyddol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn lle bydd gennych hawl i ethol cynrychiolwyr i Fwrdd y Cyfarwyddwyr.
- Newyddlenni ar lein, i aelodau yn unig, fydd yn rhoi gwybod i chi am y datblygiadau diweddaraf…
- …a bathodyn Nant Gwrtheyrn, sydd ond i’w gael wrth fod yn aelod.
Cewch hyn i gyd am gyn lleied â £15 y flwyddyn!
Sut gall eich arian wneud mwy i’r Ymddiriedolaeth?
Gan fod Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn elusen gofrestredig gall hawlio treth yn ôl gan y Llywodraeth ar dâl aelodaeth ac unrhyw gyfraniadau. Nid yw’n costio dim i chi ond mae’n golygu bod eich arian chi yn fwy o werth i ni. Er mwyn ein galluogi i hawlio’r arian hwn a fyddech cystal â llenwi’r rhan Rhodd Cymorth ar y ffurflen ymaelodi. Does dim angen i chi wneud dim mwy na hynny.
Eisiau gwybod mwy?
Os nad ydych yn Ffrind ac eisiau gwybod mwy am y cynllun aelodaeth, defnyddiwch y ffurflen holi isod neu ffoniwch y Ganolfan ar 01758 750334.
Ffurflen holi
