1970au
Comiwn New Atlantis
Yn ystod y 1970au, cafodd y pentref ei feddiannu gan hipis o Gomiwn New Atlantis. Fe fuon nhw’n byw yno heb gyflenwad dŵr na thrydan na system garthffosiaeth. Fe achoson nhw lawer o ddifrod i’r Nant gan losgi lloriau a drysau fel coed tân, malu llechi o’r toeau a gorchuddio’r waliau â graffiti. Am olygfa drist oedd hon i unrhyw un oedd ag atgofion arbennig am gymuned glòs a chwareli prysur y Nant! Pan adawodd aelodau’r comiwn y Nant o’r diwedd, cafodd yr adeiladau eu gadael yn adfeilion.
Wyddech chi?
Rhoddodd John Lennon o grŵp y Beatles ynys yn anrheg i aelodau’r comiwn gan ei fod yn cydymdeimlo â nhw.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334