Diwedd Cyfnod...
Ond beth ddigwyddodd wedyn?
Ond, yn anffodus i gymuned Nant Gwrtheyrn, roedd llwyddiant y diwydiant ithfaen yn fyrhoedlog. Fel y daeth tarmac yn fwy poblogaidd ar gyfer wynebu ffyrdd, bu gostyngiad dramatig yn y galw am sets ithfaen. Gorfodwyd y chwareli i gau am gyfnodau yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd hyn effaith amlwg ar y pentref.
Pan gaeodd chwarel y Nant am gyfnod, ceisiodd rhai gweithwyr gael gwaith yng Nghae’r Nant a Charreg y Llam, ond doedd gan lawer ddim dewis ond symud o’r pentref. Golygai hyn nad oedd angen ysgol na chapel cymunedol wedyn.
Er i’r pentref gael adfywiad yn y 1930au fel y cododd y galw am ithfaen drachefn i adeiladu ffyrdd a thwnelau, ddaeth ffyniant y gorffennol ddim yn ôl.
Tra bo 40 aelod yng Nghapel Seilo yn 1914, erbyn y 1930au roedd y nifer wedi gostwng yn syfrdanol i rhwng 12 a 15 aelod. Roedd mwy o bwysau ar deuluoedd i symud i Lithfaen er mwyn bod yn nes at wasanaethau lleol fel y meddyg, ysgol uwchradd a siopau.

Plant yn chwarae yn y Nant yn yr 1930au hefo Evan Wynne, perchennog siop y pentref (ar y dde).
Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd yn 1939, caeodd Chwarel y Nant am y tro olaf a gadawodd y teuluoedd y pentref fesul un.


  Tai Trem y Mynydd, 1948 Disgyblion yn Ysgol y Nant, 1951
Yn hwyr yn y 1940au, fe wnaeth ychydig o deuluoedd newydd, ynghyd â nifer o sgwatwyr, fachu ar y cyfle i symud i fythynnod gwag y Nant. Oherwydd y trigolion newydd hyn, penderfynodd y Pwyllgor Addysg ailagor yr ysgol yn 1949. Mrs Gwen Evans oedd yr athrawes olaf i ddysgu yn ysgol y pentref, ond erbyn y 1950au roedd dyddiau’r hen gymuned chwarelyddol fywiog wedi dod i ben am byth.