Carl Clowes
Breuddwyd a ddaeth yn ffaith
Yn 1970, symudodd y Meddyg Carl Clowes o Fanceinion i redeg meddygfa Llanaelhaearn ar ei ben ei hun. Roedd ef a’i wraig Dorothi yn benderfynol o fagu eu plant yn siaradwyr Cymraeg.
Ond yr hyn a ganfu oedd cymuned yn wynebu problemau gwirioneddol, a theimlodd y dylai rhywbeth gael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa:
- Roedd si bod y chwarel ithfaen gyfagos yn Nhrefor ar fin cau
- Roedd Ysgol Llanaelhaearn hefyd dan fygythiad o gael ei chau
- Roedd rhaid creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal os oedd hi am oroesi
Adfywiad yr iaith - beth oedd ei angen?
- Roedd dosbarthiadau arbenigol ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn cael eu cynnal drwy Gymru. Ers i Ddeddf gyntaf yr Iaith Gymraeg ddod i rym yn 1967 roedd galw cynyddol am weithwyr dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus.
- Roedd angen canolfan iaith genedlaethol ac arbenigol a fyddai’n agored drwy gydol y flwyddyn.

Y pentref rhithiol.
Gyda diolch i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
c.1970au
Wrth i’r ddau syniad asio gyda’i gilydd, teimlwyd bod Nant Gwrtheyrn yn lleoliad perffaith. Er bod yr adeiladau yn adfeilion erbyn y 1970au, penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yno a fyddai yn:
- Creu gwaith ar gyfer pobl leol
- Rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg
Llwyddodd y Meddyg Carl Clowes i gael cefnogaeth tiwtoriaid, pobl fusnes a chyfeillion i sefydlu Ymddiriedolaeth er mwyn prynu pentref Nant Gwrtheyrn.
Erbyn 1978 roedd y trafodaethau i brynu’r pentref gyda pherchenogion y safle, AMEY Roadstone Corporation (ARC), wedi eu cwblhau. Bu codi arian ar raddfa enfawr trwy Gymru benbaladr er mwyn cael cefnogaeth i’r prosiect. Bydd Nant Gwrtheyrn yn nyled pobl Cymru am byth am eu ffydd, eu penderfyniad a’u haelioni.

Llythyr anfonwyd at Carl Clowes gan yr ARC yn 1973