Hel Atgofion
Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn...
Roedd saith o fyfyrwyr ar y cwrs Cymraeg cyntaf a gynhaliwyd yn Nant Gwrtheyrn - Richard Wilmot, Margaret Eaglestone, Edna Wood, Pat Skidmore, Pauline Williams, Dave Lovell, and Grace Ll Jones - here are some of their recollections.
Edna Word, Trefor
"Mae trigain mlynedd bellach ers i mi gael fy nghip cyntaf ar y "pentref diffaith" oddi ar gwch bystgota. Tra oeddwn yn gwersylla gyda'r Girl Guides yn Nhrefor, penderfynodd tair ohonom i hurio dyn lleol i fynd a ni i weld y Nant, a thros y blynyddoedd fe welais y llechi ar doeau'r tai yn diflannu, y pren a'r celfi sefydlog yn cael eu hudo i ffwrdd a'r pentref yn cael ei adael i adfeilio. I mi roedd yn lle rhyfedd a thrist gyda'i chwedlau am gastell Gwrtheyrn a drawyd yn farw gan fellten a'r stori am y briodferch yn cuddio mewn ceubren ac na chai ei gweld fyth mwy.
Pan ddechreuwyd ar y prosiect i ail-agor y pentref unwaith yn rhagor fel Canolfan Iaith Gymraeg dilynais ddatblygiad pethau gyda chryn ddiddordeb, a phan gwblhawyd y ty cyntaf y gellid byw ynddo a chwrs penwythnos yn cael ei gynnig i ddysgwyr Cymraeg, roedd fy enw i ar y rhestr.
Ar ol pacio sach gefn, a oedd yn dal sosbenni i goginio, cychwynais ar fy nhaith. Mynnodd fy ngwr i mi fynd a'r holl sosbenni yn y ty a threuliodd y penwythnos yn byw ar dost! Fodd bynnag, fe gyrhaeddais y Nant ac archwilio'r ty. Dyna wahaniaeth ers fy ymweliad diwethaf. Roedd y ty'n dal i fod heb gyflenwad trydan ac roedd generadur yn cael ei ddefnyddio. Roedd hwnnw'n cael ei ddiffodd gyda'r nos felly roedd fflachlamp yn handi i ddringo i mewn i'r gwlau bync uchel. Fe geisiais ddringo creigiau pan oeddwn yn iau a methu, felly gwneuthum yn siwr fod y gwragedd eraill wrth law wrth fynd i'r gwely. Fel yn achos y gwlau bync, roedd y dodrefn eraill o wneuthuriad da ac yn ymarferol.

Grwp bychan o fyfyrwyr oeddem ni a chawsom ein gwersi ym mhrif ystafell y ty, yn eistedd mewn hanner cylch o flaen y tiwtor. Un wers na wna i byth ei anghofio yw pan wnes i'r camgymeriad erchyll o ddisgrifio Nant Gwrtheyrn fel "ofnadwy" yn hytrach na "bendigedig". Fe allaf glywed y sgrechfeydd o brotest hyd heddiw.
Daeth llawer o ymwelwyr i lawr i'r Nant yn ystod y penwythnos, yn cynnwys tim o fyfyrwyr coleg arlwyo a wnaeth swper hyfryd i ni. Gan mai dim ond Cymraeg oeddem ni'n ei siarad yn ystod y cwrs, roedd yn rhaid i mi sleifio i mewn i'r gegin a sibrwd fy niolch yn Saesneg i'r di-Gymraeg.
Daeth dau griw teledu i ffilmio, ac roedd un ohonynt yn gwmni o'r Alban. Daeth Dafydd Iwan i roi adloniant i ni ac fe ymunom ni yn y canu. Er fy mod i'n sefyll nesaf ato gyda llais aflafar wnaeth o ddim cwyno na chynnig y dyliwn feimio'r geiriau. Does dim angen dweud i mi fod yn ffan ar hyd fy oes.
Fe gawsom ymweliadau gan nifer o bobl a oedd yn gysylltiedig a'r prosiect a chawsom gyfle i gyfarfod trigolion lleol pentref Llithfaen yn nhafarn y Fic ar y nos Sadwrn. Wrth gyrraedd y dafarn fe ymunom a grwp o bobl a oedd wedi dod at ei gilydd yno. Roedd 'na nodyn ar y drws yn egluro pa gymdeithas oedd yn cyfarfod yno ond fe gawsom ni groeso mawr a noson dda iawn. Wrth adael, fe ddaeth rhywun ataf a gofyn i mi a oeddwn i wedi rhoi matsys iddo! Margaret Eaglestone a Richard Wilmott oedd a'r cyfrifoldeb o fynd a fi yn ol i'r Nant ac mae'r siwrnai honno i lawr y llwybr yn un y byddwn wrth fy modd yn gallu ei anghofio. Nid y ddiod oedd y broblem ond gorbwysau, a gyda chwpwl nerthol yn fy nal ar fy nhraed fe saethom i lawr yr allt ar gyflymder golau.
Wrth adael am adref wnes i ddim meddwl y byddai'r ffaith i mi fod yn un o'r myfyrwyr cyntaf yn reswm i ddod a mi yn ol yno sawl gwaith. Yn ystod agoriad swyddogol Wyn Roberts, roeddwn i'n sefyll ar ben yr allt i lawr i'r nant gyda fy wyrion. Cyn gynted ag y torrodd Mr Roberts y rhuban fe drodd at fy wyrion a'u hannog o'i flaen. Roedd fy mab wrth ei fodd i weld ei blant yn arwain y prosesiwn ar y teledu, ond roedd o, wedi'r cyfan, yn gyn aelod o Gymdeithas yr Iaith ei hun.
Unwaith eto, fe es i i lawr gyda thri aelod arall o'r cwrs cyntaf hwnnw i groesawu'r Tywysog Siarl. Dringodd y Tywysog allan o'i hofrennydd, ac am y tro cyntaf fe'i clywais yn siarad Cymraeg!
Felly parhaodd y cwrs cyntaf yn Nant Gwrtheyrn yn hwy na phenwythnos ac er mai fi oedd twpsyn y cwrs, teimlais iddo fod yn llwyddiant ysgubol a wnes i erioed deimlo yn anghyffyrddus mewn awyrgylch mor gyfeillgar a hwyliog.
Richard Wilmot
"Wrth ddod i lawr yr hen lwybr hegar a serth i lawr i'r Nant, yn agos i'r gwaelod, fe droais oddi wrth y sig-sag olaf ar hyd llwybr yr oeddwn wedi dod o hyd iddo yn ystod ymweliad blaenorol, ac felly fi oedd y dysgwr cyntaf i gyrraedd o blith y chwech ohonom ar y cwrs cyntaf un. Dim ond un ty oedd wedi ei orffen - Dwyfor, ar dalcen Trem y Mynydd.
Roedd yno ddwr ond deuai'r trydan o eneradur, a gai ei danio yn y llwydolau yn y bore a'i ddiffodd gan yr olaf i fynd i'w wely (heb anghofio mynd a fflachlamp gyda fo!) Cyffyrddiad croesawgar iawn oedd ces o win gyda label y Nant ei hun arno, anrheg na chafwyd ar benwythnosau diweddarach yn anffodus. Ar y diwrnod olaf, cyrhaeddodd y criw teledu a chawsom i gyd ein cyfweld a'n troi yn eitem newyddion, un y gwnaethom i gyd ei gwylio, gyda graddau gwahanol o gywilydd, ar ol cyrraedd adref. Ein tiwtor oedd y diweddar Gwenno Hywyn, a ddangosodd ei hymrywmiad parhaus i ddysgwyr trwy ddarparu penwythnos diddorol, adlonianol ac addysgol."
Margaret Eaglestone
"Mae gen i gofion cynnes am y freuddwyd i greu Canolfan Iaith yn Nant Gwrtheyrn. Roedd criw da ohona ni wedi arfer mynychu Clwb Dysgwyr y Goat, Llanwnda. Roedd y clwb yn anffurfiol ond efo dwy athrawes frwdfrydig iawn roedden ni wedi dysgu wrth fwynhau ein hunain, ac yna dechreuon feddwl am godi arian at yr "achos" mewn ffyrdd digon syml ond bryd hynny roedd pob ceiniog yn bwysig.
Er enghraifft - trefnu bore coffi ac unwaith Noson Hwyl yr Wyl (Parti Caws a Gwin) efo Elinor Bennet, Dafydd Iwan ac eraill. Roedd pawb yn awyddus i helpu. Roedd 4 o griw y Goat wedi cael gwahoddiad i'r cwrs cyntaf erioed yn y Nant yn 1982.
Roedd Nant Gwrtheyrn yr adeg hynng yn cyntefig i gymharu efo heddiw. Doedd 'na ddim trydan, dim teleffon ac roedd yn her teithio i lawr yr hen lwybr creigiog mewn Land Rover, a hefyd yn her i aros yn yr unig dy, sef "Dwyfor", yr unig dy oedd yn barod. Profiad i ddweud y lleiaf!
Efo help dau diwtor sef Gwenno Hywyn a Merfyn Morgan a Gwyn Williams y Trefnydd, cafon ni fel dysgwyr benwythnos gwych. Yr effaith arna i oedd medru "croesi'r bont" i siarad Cymraeg tu allan i ddosbarth ffurfiol. Rydwi wedi bod yn ol i aros yn y Nant dros y blynyddoedd ac yn cofio'r awyrgylch arbennig o gwmpas y pentre, awyrgylch o heddwch a distawrwydd ac wedi mwynhau y profiad yn arw iawn pob tro.
Gobeithio bod y Nant yn bodoli fel Canolfan Iaith am y chwarter canrif nesa."
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334