Sefydlu pentref
Dim ond tair fferm a thua 16 o bobl oedd yn arfer bod yn yr ardal wledig yma ar benrhyn Llŷn, ond erbyn 1900 roedd pentref diwydiannol llewyrchus wedi datblygu yma. Kneeshaw and Lupton oedd yn gyfrifol am roi ei enw newydd i’r pentref: Porth y Nant.
Yn 1878, penderfynodd cwmni’r chwarel fod angen llety mwy parhaol ar gyfer chwarelwyr Porth y Nant. Galwyd y ddwy res o fythynnod a godwyd iddynt yn Trem y Môr a Threm y Mynydd.
Erbyn Cyfrifiad 1886 roedd poblogaeth y Nant wedi codi i 200, ac roedd dau o bob tri yn siarad Cymraeg. Daeth rhai gweithwyr o bentrefi cyfagos Pistyll ac Edern ar benrhyn Llŷn a rhai o Benmaenmawr, tra bo eraill yn ffermwyr o Fôn wedi mentro croesi’r Fenai i chwilio am waith.
Câi’r gweithwyr eu talu bob yn ail dydd Sadwrn, a disgwylid iddynt dalu eu rhent a setlo eu cyfrif yn y siop gydweithredol ar unwaith. Erbyn heddiw y swyddfa sydd yn yr adeilad lle’r arferai’r siop fod.
Er bod y gwaith yn galed a’r amodau’n beryglus, cafodd cymdeithas glòs ei sefydlu ym Mhorth y Nant.
Yn ystod y cyfnod hwn yr adeiladwyd y Plas, yr ochr bellaf i res dai Trem y Mynydd, fel cartref i reolwr y chwarel. Bellach yr adeilad hwn ydy canolfan ddysgu’r Nant.

Wyddech chi?
Yn 1983, cyhoeddodd Eileen M. Webb lyfr yn dwyn y teitl ‘This Valley Was Ours’. Eileen Salmon oedd hi’n wreiddiol, ac roedd hi’n ferch i reolwr y chwarel. Disgrifia ei llyfr fywyd yn y pentref yn ystod y 1930au.