Thomas Pennant

Yn y 1770au, ysgrifennodd Thomas Pennant am garnedd wedi’i lleoli ger y môr yn Nant Gwrtheyrn. Credir mai bedd carreg wedi’i orchuddio â thywyrch oedd hwn mewn gwirionedd, ac fe gyfeirid ato’n lleol fel Bedd Gwrtheyrn. Yn ôl Pennant, roedd trigolion y Nant wedi agor y bedd ac wedi dod o hyd i arch yn cynnwys esgyrn dyn tal ynddo.
Thomas Pennant
Thomas Gainsborough
Gyda diolch i Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Safle arall yn gysylltiedig â’r Brenin Gwrtheyrn oedd Castell Gwrtheyrn sydd wedi’i nodi ar hen fap plwyf o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Golygfa o fferm Ty Uchaf o'r ffordd
Fe wnaeth Pennant hefyd ddisgrifio trigolion y Nant:
“Mae tri theulu yn byw ar y tir fel tenantiaid, yn tyfu ŷd ac yn cadw ychydig wartheg, defaid a geifr. Maen nhw’n ei chael hi’n anodd iawn cael eu cynnyrch prin i’r farchnad.”
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334