Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : The Barracks
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Y Barics

Oherwydd llwyddiant y chwareli, codwyd llety ar gyfer y gweithwyr yn agos i’r traeth. Yn swyddogol, enw’r adeilad hwn oedd Holyhead View ond enw’r bobl leol arno oedd “y barics”.

Gwyddelod oedd llawer o’r chwarelwyr cynnar, wedi croesi Môr Iwerddon i chwilio am waith oedd yn talu’n well. Cafodd rhai gweision fferm eu denu i’r chwareli hefyd gan fod cyflogau gwell i’w cael yno.


34 work of the nant

Wyddech chi?


Roedd y chwarelwyr cynnar yma yn teithio i’r Nant ar fore Llun gyda digon o fwyd am yr wythnos. Roedden nhw’n aros yn y barics ar hyd yr wythnos gan fynd adref i weld eu teuluoedd am hanner dydd ddydd Sadwrn.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y barics, ystyrid y pentref yn lle garw ac anwaraidd i fyw ynddo. Credir mai Porth y Nant oedd y lle mwyaf annuwiol ac anwaraidd yn Llŷn ac Eifionydd gan y byddai’r gweithwyr yn treulio’u hamser yn gloddesta ac yn yfed.

013

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn