Y Gymdeithas
Law yn llaw- Crefydd ac Addysg
Fel roedd y Nant yn datblygu, codwyd adeilad pren ar gyfer cynnal cyfarfodydd crefyddol. Yr enw a roddwyd arno oedd ”Y Babell Goed” ac fe’i hadeiladwyd yn agos at lle saif Caffi Meinir heddiw.
Ond, fel roedd nifer y pentrefwyr yn cynyddu, roedd angen adeilad mwy ar gyfer cyfarfodydd crefyddol. Codwyd Capel Seilo yn 1878 ar gost o £300. Roedd digon o le yn Seilo i 130 o bobl fedru eistedd ynddo a chynhelid y gwasanaethau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Erbyn 1900, roedd gan Gapel Seilo tua deugain o aelodau; roedd dros ddeg ar hugain o blant yn mynychu’r capel ac oddeutu trigain yn mynychu’r Ysgol Sul. Daeth y capel yn ganolog i fywyd y pentref a byddai’r trigolion yn mwynhau cyfarfodydd gweddi, Band of Hope a seiat yn rheolaidd. Mae Capel Seilo yn dal i sefyll heddiw, ond dinistriwyd yr hen Babell Goed mewn storm.
Cafodd ysgol gyntaf y pentref ei chynnal yn un o dai Trem y Mynydd a chawsai ei chyllido’n breifat. Cyflogwyd y gweinidog gan gwmni’r chwarel i gynnal ysgol ddyddiol i’r plant.
Rhwng 1878 a’r Rhyfel Byd Cyntaf oedd oes aur y chwareli. Yn ystod y cyfnod hwn, fel y tyfodd nifer disgyblion yr ysgol, penderfynwyd cynnal yr ysgol mewn rhan o Gapel Seilo.
Ysgol y pentref,
c.1935
Yn 1908 cymerodd Pwyllgor Addysg Sir Gaernarfon ofal o’r ysgol mewn ymdrech i wella safon yr addysg. Pan ymwelodd Arolygwyr ei Fawrhydi â’r ysgol yn 1910, roedden nhw’n anfodlon iawn ynglŷn â chyflwr yr ysgol a lefel yr addysgu. Awgrymwyd hefyd newid enw’r ysgol
“o’r enw cymysg Porth y Nant i’r Nant Gwrtheyrn awgrymog”.
Tystysgrif presenoldeb Annie Mair Jones, a fu'n bresennol bob diwrnod o'r flwyddyn ysgol, 1937-8.