Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : The Environment
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Yr Amgylchedd

Dyffryn Nant Gwrtheyrn

Mae ardal Llŷn wedi ei dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac mae holl adeiladau pentref Nant Gwrtheyrn wedi eu cofrestru gan CADW (Gradd II) fel Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig.

Ond nid yr adeiladau yw’r unig bethau o ddiddordeb amgylcheddol yn y Nant. Mae’r dyffryn cyfan yn un o’r lleoliadau prydferthaf yng Nghymru ac yn gartref i bob math o anifeiliaid, adar a phlanhigion.



Mae un o adar prin Ewrop yn ymgartrefu yma, sef y frân goesgoch, a chwarel Carreg y Llam gerllaw yw un o nythfeydd adar môr mwyaf Gogledd Orllewin Cymru. Mae gyrr o eifr gwyllt yn byw ar y llethrau cyfagos a phan fo tywydd garw ar y ffordd fe’u gwelir o amgylch y pentref yn chwilio am gysgod. Llwyddodd Nant Gwrtheyrn i gyrraedd Lefel 2 yng Nghynllun Gwobr y Ddraig Werdd yn 2009. Yn sgîl y datblygiadau diweddar cafwyd buddsoddiad sylweddol mewn technolegau newydd i ddefnyddio cyn lleied o ynni a dŵr ag sy’n bosib, ac ymdrechion pellach i ailgylchu gwastraff.

Mae’r technolegau newydd yn cynnwys offer puro dŵr sy’n tynnu dŵr o nant y dyffryn ac yn storio 50,000 litr ar y safle er mwyn medru ymdopi â chyfnodau o dywydd sych.

Mae’r technolegau gwresogi newydd yn cynnwys pympiau sy’n defnyddio gwres yr aer ac sydd bedair gwaith yn fwy effeithlon na system wresogi arferol, a hefyd bwmp sy’n defnyddio gwres y ddaear ar gyfer y caffi a’r neuadd, tra defnyddir ynni’r haul i gael dŵr poeth yn adeilad y caffi.

Mae Nant Gwrtheyrn wedi ymrwymo i leihau swmp y gwastraff sy’n cael ei anfon i safle tirlenwi ac mae’n edrych ar ffyrdd i ailgylchu’r rhan fwyaf o’r gwastraff a gynhyrchir gan y gweithgareddau ar y safle.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn