Yr Oes Ddiwydiannol

Yn y 1850au, roedd dinasoedd fel Lerpwl, Manceinion a Phenbedw yn tyfu’n gyflym ac roedd angen llawer iawn o ddeunyddiau adeiladu ar eu cyfer. Roedd rhaid cael ffyrdd gydag wyneb cadarn i ymdopi â’r holl draffig a daeth galw mawr am sets ithfaen.
* Beth ydy set?
Set ydy darn o ithfaen wedi’i siapio’n fricsen sgwâr neu hirsgwar. Roedd y sets hyn yn cael eu defnyddio i roi wyneb ar strydoedd trwy Brydain. Y Chwareli
Hugh Owen o Fôn oedd y cyntaf i roi cynnig ar agor chwarel ithfaen yn y Nant yn 1851. Dilynwyd ef gan eraill, rhai yn fwy llwyddiannus na’i gilydd, ond yn 1861 agorwyd chwarel ar ochr ddeheuol y bae gan gwmni o’r enw Kneeshaw and Lupton o Lerpwl. Roedd hwn yn safle delfrydol ar gyfer chwarel gan fod cyflenwad mawr o ithfaen wrth ymyl a hefyd roedd yn agos i’r môr.
The quarry workers,
c.1870
Roedd cloddio am ithfaen yn llwyddiant mawr, ac o fewn ychydig flynyddoedd roedd tair chwarel wedi eu hagor yn y Nant:
- Cae'r Nant
- Porth y Nant
- Carreg y Llam
O ganlyniad, roedd llongau 150-200 tunnell yn cael eu llwytho a’u hanfon i’r dinasoedd diwydiannol yn rheolaidd gan ddychwelyd gyda phob math o gynnyrch nad oedd ar gael yn lleol i’r chwarelwyr.

S.S. Wythburn being loaded at the jetty.

The Maraboe Ship at Nant Gwrtheyrn
“Esh i yno fatha prentis ffitar a fitter welder ydden nhw’n alw fo adeg hynny a wedyn dyma fi’n joinio’r llonga’. ‘Odd ‘na naw neu ddeg ohona’ ni yn llwytho a’r llonga’n dod i mewn bob adag o’r dydd a’r nos, yn dibynnu ar y llanw ‘de.” John Eirwyn Jones, 2010
Cyfeiriai at ei waith yn chwarel Cae’r Nant, c.1940au
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334