Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyfrannu nifer o grantiau, sy’n dod i gyfanswm o ryw £1.6m, gan alluogi’r prosiect i fynd rhagddo. Mae’r rhain yn cynnwys grant oddi wrth Croeso Cymru tuag at ailddatblygu’r llety a’r cyfleusterau arlwyo; oddi wrth Cadw ar gyfer adnewyddu adeiladwaith allanol yr adeiladau rhestredig – y bythynnod, y swyddfeydd ac adeilad addysgol y Plas; ac o Gronfa yr Ardoll Agregau ar Gyfer Cymru tuag at y gost o ddodrefnu’r tŷ cyfnod a dehongli’r dreftadaeth. Cyfrannodd yr Adran Economi a Thrafnidiaeth arian cyfatebol tuag at rywfaint o’r arian Ewropeaidd a chymhorthdal i adeiladu ffordd newydd.
Cliciwch yma i fynd i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334