Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : The Development
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Y Datblygiad



Mae sawl cwmni wedi cyfrannu at y datblygiadau mwyaf diweddaraf yn Nant Gwrtheyrn:

Cafodd tri cwmni pensaerniol eu gwahodd i gyflwyno eu syniadau nôl yn 2006, ac fe apwyntiwyd James, Jenkins a Thomas o Aberystwyth i ymgymryd â’r gwaith o gynllunio ac ailddylunio’r adeiladau sydd wedi eu rhestru a’r estyniad newydd.

Yn dilyn proses tendro cystadleuol, fe apwyntiwyd R.L. Davies, cwmni teuluol o Fae Colwyn, fel y prif gontractwyr adeiladu.

Mae Headland Design yn gwmni o Farndon, yn Swydd Gaer, ac fe’u hapwyntiwyd i ddehongli treftadaeth y safle yn llwyddiannus fel rhan o brosiect adnewyddu a datblygu. Cynhyrchodd Headland Gynlluniau Gweithgaredd a Dehongliadol a fyddai cefnogi’r cais llwyddiannus i’r HLF.

Yn y gorffennol, byddai sawl person yn gweld gyrru i lawr i’r Nant fel profiad digon brawychus – gan nad oedd lle i ddau gar basio eu gilydd yn rhwydd.

Fe apwyntiwyd Capita Symonds gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn er mwyn llwyddo i gael caniatad cynllunio ac i ddylunio ac arolygu’r prif welliannau i’r ffordd gan Jones Bros o Rhuthun (a fu hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r ffordd flaenorol i lawr i’r Nant yn 1978). Mae’r ffordd newydd bellach yn addas ar gyfer coetsys a loriau mawrion ac fe agorwyd yn swyddogol gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Prif Weinidog y Cynulliad ym mis Mawrth 2008.

Er mwyn cwblhau’r rhan yma o’r datblygiad, fe ail-darmacwyd y ffordd ym mis Tachwedd 2010 ac o ganlyniad mae’n llawer haws a llai brawychus i gyrraedd neu adael y Nant mewn car neu mewn bws.



Jones bros

Headland capita symonds

RLD

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn