Ymddiriedolwyr
Mae gan Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn hyd at 11 o Gyfarwyddwyr sydd yn wirfoddolwyr ac yn cyfarfod bob chwarter i gadw llygad ar weithgareddau’r ganolfan. Y Cyfarwyddwyr presennol yw:
1) Y Meddyg Carl Clowes - Sylfaenydd
Sefydlydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 tra ym mhractis meddygol ym Mro`r Eifl. Cadeirydd yn ystod y cyfnod ffurfiol a phellach yn Llywydd yr Ymddiriedolaeth. Ef oedd Cadeirydd sylfaenol Antur Aelhaearn, y gymdeithas gydweithredol gymunedol gyntaf yng ngwledydd Prydain yn 1974. Ef hefyd oedd Cadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y perthynas arbennig rhwng Cymru a Lesotho a sefydlwyd yn 1985. Bellach, yn Llywydd am Oes yr elusen honno ac yn Is-gennad Lesotho yng Nghymru. Yn 2009, fe`i gydnabuwyd gydag anrhydedd sifil ucha`r wlad sef `Member of the Most Loyal Order of Ramatseatsana`. Yn aelod o`r Orsedd, fe`i anrhydeddwyd gydag Urdd y Derwyddon am "ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol". Y mae ganddo ddiddordeb o hyd yn ei faes arbennigol sef `iechyd cyhoeddus` a mae `e wedi ei anrhydeddu fel Cymrawd Iechyd Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Mae`n aelod cyfredol o Fwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
2) Jeff Williams Jones – Cadeirydd
Ymgynghorydd a hyfforddwr ar faterion rheoli yw Jeff Williams-Jones. Sefydlodd ei gwmni ymgynghorol yn 2003 yn canlyn dros 20 mlynedd o redeg ei fusnes mewnforio a dosbarthu. Ymunodd fel aelod o'r Bwrdd dros ddeg mlynedd yn ôl a penodwyd ef yn Gadeirydd yn 2007. Mae'n byw ym Mharadwys, Ynys Môn, gyda'i bartner Nona.
3) Huw Jones - Dirprwy Gadeirydd
Huw Jones oedd Prif Weithredwr S4C rhwng 1994-2005. Yn ystod y 25 mlynedd cyn hynny, roedd yn un o sylfaenwyr cwmnïau Barcud , Teledu’r Tir Glas a Sain. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Portmeirion Cyf; yn Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru, yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg ac yn Gadeirydd “Cyfle”, sef cwmni hyfforddi diwydiannau’r Cyfryngau Creadigol. Mae’n byw yn Llandwrog, Gwynedd.
4) Phyllis Ellis - Ysgrifennydd
Pennaeth Ysgol wedi ymddeol ydi Phyllis Ellis, cyn iddi ddechrau gweithio fel Swyddog Ymchwil i Dafydd Wigley A.S. Mae’n Gadeirydd mudiad Cefn, yn Gadeirydd Cyngor Cymuned Llanddeiniolen, yn aelod o Fwrdd Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Penisarwaun a Chadeirydd Pwyllgor Rheoli Neuadd Penisarwaun. Yn ogystal â bod yn aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, bu’n Is Gadeirydd Pwyllgor y Dysgwyr ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2005 ac ar y funud mae’n Gadeirydd Pwyllgor Apel Penisarwaun tuag at Eisteddfod yr Urdd 2011. Mae Phyllis wedi bod yn aelod o Fwrdd Rheoli Nant Gwrtheyrn ers 1990.
5) Clive Wolfendale - Trysorydd
Ymunodd Clive Wolfendale â Bwrdd Nant Gwrtheyrn yn 2003, wedi iddo fynychu cwrs i ddysgu Cymraeg yno. Ym mis Medi 2009, apwyntiwyd ef yn Brif Weithredwr CAIS, sef yr Asianataeth Cyffuniau ac Alcohol yng Nghymru wedi iddo ymddeol fel Prif Gwnstabwl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cadeirydd Fforwm Lleihau Niwed gan Alcohol yng Ngogledd Cymru a Chyfarwyddwr ac Ysgrifennydd Cwmni Elusennau Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Mae Clive hefyd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae’n Gyfarwyddwr Band Tref Llandudno.
6) Adrian Price
Mae’r Athro Adrian Price yn gweithio fel Cyfarwyddwr Dysgu yn arbennigo mewn Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd.
7) Phyl Brake
Mae Phyl Brake yn gweithio yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n arwain rhaglen ymchwil Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru. Dros y blynyddoedd mae Phyl wedi ysgrifennu llawer o gwrslyfrau dysgu Cymraeg ar bob lefel – o gyrsiau i ddechreuwyr pur hyd at gyrsiau gloywi iaith i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf – ond Ieithyddiaeth, yn enwedig Ieithyddiaeth Gymdeithasegol neu Sosioieithyddiaeth, yw ei brif ddiddordeb.
8) Liz Saville Roberts
Mae Liz Saville Roberts yn rhedeg Canolfan Sgiliaith, sy'n hyrwyddo'r Gymraeg fel sgil alwedigaethol mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae hefyd yn Gynghorydd Sir ar Gyngor Gwynedd. Yn wreiddiol o Lundain, mae hi ai'i theulu yn byw ym Morfa Nefyn. Mae hi wedi dysgu Cymraeg wedi iddi ddilyn cwrs gradd mewn ieithoedd Celtaidd. Mynychodd Liz gwrs Cymraeg yn y Nant yn Nhachwedd 1983 - adeg heb na thrydan na lon darmac i'r pentref.
9) Berwyn Evans
Mae Berwyn Evans yn adeiladydd; wedi graddio gyda’r Chartered Institute of Building. Ar ôl troi’n ddeugain oed, dechreuodd astudio gyda’r Brifysgol Agored gan ennill gradd chwe mlynedd yn ddiweddarach. Mae Berwyn wedi bod yn ymddiriedolwr er y dyddiau cynnar atgyweirio’r pentref. Er y bu bwlch yn ei amser fel Ymddiriedolwr, ail ymunodd tair blynedd yn ôl a mae wedi ymgymryd â’r swydd o Glerc y Gwaith tros gyfnod ail adnewyddu diweddaraf. Mae’r Nant yn curo yn agos iawn at ei galon.
10) Gareth Jones A.C
Dychwelodd Gareth Jones i’r Trydydd Cynulliad yn 2007 fel yr Aelod dros sedd newydd Aberconwy, ar ôl bod yn Aelod dros Gonwy yn y Cynulliad Cenedlaethol Cyntaf rhwng 1999 a 2003. Yn ystod ei yrfa, mae wedi dal nifer o swyddi; ef oedd llefarydd a Gweinidog yr Wrthblaid dros Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Addysg. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd Pwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad ac mae hefyd yn aelod o Bwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2. Mae Gareth yn gyn-Bennaeth ysgol ac ymgynghorydd addysg ac mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, cyfiawnder cymdeithasol a’r Gymraeg. Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau chwarae golff.