croeso i nant
Please click here to see the English version of this website
Mae Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru Nant Gwrtheyrn, neu’r ‘Nant’ fel y’i gelwir ar lafar gwlad, wedi’i lleoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, Gogledd Cymru.
Mae’r Ganolfan yn arbenigo mewn dysgu Cymraeg i Oedolion (fel ail iaith) drwy gyfrwng
cyrsiau preswyl dwys sydd ar gael ar hyd y flwyddyn.
Rydym hefyd yn cynnig llety a lluniaeth ar gyfer grwpiau a lleoliad ar gyfer
cynadleddau a
phriodasau a gellir llogi ein bythynnod hunan ddarpar ar gyfer gwyliau.
Gall ymwelwyr â’r ardal ddod draw i
Ganolfan Dreftadaeth y Nant i fwynhau yr arddangosfeydd am yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig, hanes y pentref a bywyd gwyllt unigryw y dyffryn diarffordd hwn a’i draeth. Yn y pentref hefyd mae tŷ wedi’i ddodrefnu i dywys ymwelwyr yn ôl i oes y chwareli.
£80 GOSTYNGIAD. Cynnig arbennig wedi ymestyn! Archebwch le ar ein cyrsiau 2012 cyn mis Ebrill am ostyngiad sylweddol:
£415 yn lle £495.
Archebwch yma