Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Lleoliad

Mae Nant Gwrtheyrn yn gallu darparu cyfleusterau ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, ciniawa, partïon neu achlysuron cymdeithasol:

  • Mae lle i 150 eistedd yn y neuadd fawr am bryd o fwyd, a lle i 200 ar gyfer cyngerdd neu hyfforddiant, gyda’r cadeiriau wedi eu gosod yn rhesi.

  • Mae lle i hyd at 60 eistedd yn y caffi gydag ychwaneg o le i eistedd allan ar y teras.

  • Mae drysau o’r caffi a’r brif neuadd yn agor allan ar deras haul lle ceir golygfeydd trawiadol o’r bae.

Lleoliad 2

Gellir rhannu’r brif neuadd yn dair stafell a cheir gwanhad acwsteg digonol i fedru cynnal dau neu dri chyfarfod yr un pryd neu gyfarfod yn un rhan o’r neuadd gyda chyfleusterau bwyta yn y llall.

Gall grwpiau mwy ddefnyddio’r capel gerllaw a Chanolfan Addysg y Plas yn ogystal, lle ceir stafelloedd ar gyfer 60, 20 neu 15 o gynrychiolwyr.

Gellir aros mewn stafelloedd gwely 4* en suite yn y pentref dros nos ac mae prydau o fwyd cartref yn defnyddio cynnyrch lleol ar gael yng Nghaffi Meinir gyda nifer o ddewisiadau ar y fwydlen.

Adnoddau ar y safle

Mae adnoddau ar gael ar gyfer cynadledda a chyfarfodydd, yn amrywio o fyrddau gwyn rhyngweithiol a thaflunwyr i siartiau fflip, yn ogystal â systemau sain a goleuo. Mae cysylltiad WiFi ar gael am ddim yn y brif neuadd a’r caffi, a cheir cysylltiad â’r rhyngrwyd trwy gêbl yn y neuadd hefyd.

Mae system glywed dolen wedi’i gosod yn y brif neuadd ac mae system symudol ar gael ar gyfer stafelloeddd eraill. Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd i bob adeilad a theithio ar hyd pob llwybr ar y safle a cheir lifft yn adeilad y Plas. Mae llety gyda chyfleusterau stafell wlyb ar gyfer pobl llai abl ar gael hefyd.

Staff wrth law i helpu!


Y mae pob digwyddiad yn y Nant yn unigryw a bydd ein staff profiadol yn helpu i gynllunio a rheoli eich digwyddiad chi. Ambell waith mae’n bosibl y cynhelir mwy nag un digwyddiad yr un pryd ac y bydd ymwelwyr dyddiol ar y safle hefyd, felly mae angen i ni fod yn rhan o gynllunio gofalus ar gyfer pob digwyddiad yn y Nant.

Cysylltwch â Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch mair@nantgwrtheyrn.org i drafod y posibiliadau os gwelwch yn dda.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn