Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Cynadleddau

Cynadleddau, Cyfarfodydd a Dyddiau Hyfforddiant

Neuadd newydd y Nant ydy’r lle delfrydol i gynnal cynhadledd, cyfarfod neu ddiwrnod hyfforddiant mewn lleoliad trawiadol. Mae’r cyfuniad o lety o safon uchel, adnoddau gwerth chweil a llonydd perffaith heb ddim i darfu arnoch chi yn creu lleoliad unigryw a chofiadwy ar gyfer amrywiaeth o fudiadau.

Bydd cyrsiau hyfforddiant rheolaeth yn manteisio ar y lleoliad gwledig ac yn cynnal gemau a thasgau ar ein safle 250 erw, sy’n cynnwys ein traeth a’n coedwig ein hunain, yn ogystal â llwybrau ar hyd yr arfordir.

Gellir gosod y brif neuadd a’r stafelloedd cyfarfod eraill mewn nifer o batrymau eistedd gwahanol, yn amrywio o gadeiriau wedi eu gosod o gwmpas bwrdd, mewn rhesi yn null theatr, neu yn null stafell ddosbarth, a cheir stafelloedd addas ar gyfer grwpiau yn amrywio yn eu maint o 10 i 200.
Cynhadledd

Y mae cyfarfodydd ganol wythnos ar gyfer 20-50 o gyfranogwyr yn arbennig o addas ar gyfer y Nant a gellir eu cynnal gyda stafelloedd ar wahân ar gyfer cynadledda a bwyta, a llety 4*.

*****

Y cyfraddau 24 awr ganol wythnos dros ddau i dri diwrnod ar gyfer
mynychwyr cyfarfod neu gynhadledd ydy ein cynnig mwyaf cystadleuol.

*****

Cerdyn cyfraddau ar gyfer cyfarfodydd a chynadleddau

Llogi 'Stafell yn Nant Gwrtheyrn - Neuadd y Nant, Y Capel a'r Plas

Adeilad Neuadd y Nant Capel Plas
Ystafell Y Neuadd Fawr Neuadd Fach 'Stafell Rhys Prif Ystafell Ystafell Ddysgu 1* Ystafell Ddysgu 2*
Nifer
(Theatr)
150 100 80 60 30 20
Nifer
('Board
room')
70 50 40 30 20 15
Diwrnod llawn £200 £150 £140 £100 £80 £70
Hanner diwrnod £120 £90 £80 £60 £50 £40

Gostyngiad o 20% i elusennau a grwpiau cymunedol


  • *Mae argaeledd 'stafelloedd dysgu yn ddibynnol ar drefniadau Cyrsiau Iaith Y Nant

  • Mae y nifer o leoedd wedi eu tanosod ac wedi eu nodi mewn perthynas i'r dewisiadau arlwyo perthnasol

  • Cyfradd 24 awr ar gyfer mynychwyr cynadleddau yn cychwyn o £65 + TAW y pen ar gyfer grwpiau o 20 neu fwy

  • Nid oes TAW ar gostau llogi ystafelloedd

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn