Partïon
Mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad anhygoel ar gyfer dathliad. Rydym yn croesawu partïon pen blwydd a phen blwydd priodas a dathliadau teuluol eraill, yn ogystal â chiniawau clwb, digwyddiadau tei ddu a digwyddiadau codi arian. Ceir dewis o wahanol fwydlenni a phatrymau eistedd ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau – o nosweithiau cabaret ar gyfer 150 o bobl gyda byrddau crynion a llwyfan yn un pen i’r neuadd, i giniawau neu fwffe mwy ffurfiol. Gellir trefnu stafelloedd bwyta preifat ar gyfer partïon llai trwy rannu’r brif neuadd yn stafelloedd o faint addas ar gyfer nifer y mynychwyr.
Gallwn roi gwybodaeth i chi am wahanol fathau o adloniant, yn amrywio o dân gwyllt i adloniant cerddorol, ac mae ein cyfleusterau yn cynnwys systemau sain a goleuo modern a thaflunyddion ar gyfer ffilmiau a chysylltu â’r rhyngrwyd.  
Adloniant
Mae’r ffaith bod llety ar gael i’ch gwesteion ar y safle am bris cystadleuol yn gwneud y Nant yn lleoliad deniadol iawn ar gyfer eich dathliad neu ddigwyddiad.
Os am gynnal digwyddiad mwy neu ŵyl, gellir cael lle ychwanegol mewn pebyll neu farcî ar sgwâr y pentref, neu ddefnyddio’r llecyn o gwmpas y llwyfan awyr agored.
Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion os gwelwch yn dda.