Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Partïon

Mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad anhygoel ar gyfer dathliad. Rydym yn croesawu partïon pen blwydd a phen blwydd priodas a dathliadau teuluol eraill, yn ogystal â chiniawau clwb, digwyddiadau tei ddu a digwyddiadau codi arian. Ceir dewis o wahanol fwydlenni a phatrymau eistedd ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau – o nosweithiau cabaret ar gyfer 150 o bobl gyda byrddau crynion a llwyfan yn un pen i’r neuadd, i giniawau neu fwffe mwy ffurfiol. Gellir trefnu stafelloedd bwyta preifat ar gyfer partïon llai trwy rannu’r brif neuadd yn stafelloedd o faint addas ar gyfer nifer y mynychwyr.

Gallwn roi gwybodaeth i chi am wahanol fathau o adloniant, yn amrywio o dân gwyllt i adloniant cerddorol, ac mae ein cyfleusterau yn cynnwys systemau sain a goleuo modern a thaflunyddion ar gyfer ffilmiau a chysylltu â’r rhyngrwyd. &nbsp Adloniant

Mae’r ffaith bod llety ar gael i’ch gwesteion ar y safle am bris cystadleuol yn gwneud y Nant yn lleoliad deniadol iawn ar gyfer eich dathliad neu ddigwyddiad.

Os am gynnal digwyddiad mwy neu ŵyl, gellir cael lle ychwanegol mewn pebyll neu farcî ar sgwâr y pentref, neu ddefnyddio’r llecyn o gwmpas y llwyfan awyr agored.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion os gwelwch yn dda.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn