Nant Gwrtheyrn
Get Flash Player
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Cyrsiau Cymraeg

Llongyfarchiadau ar eich penderfyniad i ddysgu Cymraeg a’ch penderfyniad i ddod i Nant Gwrtheyrn, canolfan breswyl Cymraeg i Oedolion gyntaf y wlad a’r unig un o’i bath.

Trwy ddysgu’r iaith, sy’n cael ei siarad gan dros 580,000 o bobl yng Nghymru, rydych yn agor y drws i lawer o gyfleoedd a phrofiadau newydd. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn barod yn ymwybodol o’r manteision o fedru deall ac ynganu’r iaith sydd o’ch cwmpas. Bydd gennych ddwywaith y dewis o adloniant, gyda theledu, radio a gwefannau ar gael ar gyfer siaradwyr yr iaith, ac, yn y pen draw, corff o lenyddiaeth sy’n ymestyn dros ganrifoedd.

Mae pobl yn dysgu Cymraeg am lawer o resymau gwahanol: er mwyn gwaith, er mwyn y teulu, er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned, i enw rhai. Ond beth bynnag ydy’ch rheswm chi dros ddysgu’r iaith, dylai’r broses fod yn un bleserus ac yn un sy’n rhoi boddhad.

Yma yn Nant Gwrtheyrn ein nod ydy rhoi’r profiad gorau bosibl i chi o ddysgu Cymraeg, a’r gefnogaeth i gyrraedd eich nod personol chi.

Os nad ydych yn siwr pa gwrs Cymraeg sydd yn briodol i chi, ewch ar dudalen
Pa gwrs Cymraeg?


Cliciwch er mwyn gweld ein rhaglen ar gyfer 2012!
Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho


Welsh flags

Os gwelwch yn dda, gweler cylchlythyr Hydref 2011:
Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho

Rydym yn cynnig:

  • cyrsiau Cymraeg 3 a 5 diwrnod ar bob lefel drwy gydol y flwyddyn
  • cyrsiau wedi eu teilwrio’n arbennig ar gyfer grwpiau gyda diddordebau arbennig

Beth sy’n gwneud y profiad o ddod i Nant Gwrtheyrn yn wahanol i ddysgu Cymraeg mewn lleoliadau eraill?

  • dysgu’n gyflym ar ein cyrsiau dwys
  • lleoliad trawiadol lle y byddwch ynghanol siaradwyr Cymraeg sydd yma i’ch helpu
  • cyfle i ddefnyddio eich Cymraeg yn y gymuned leol
  • dwy noson o adloniant Gymraeg.

Ble fyddwn i’n aros?

  • llety en suite 4* sengl
  • caffi trwyddedig gydag amrywiaeth eang o fwyd
  • rydym hefyd yn croesawu myfyrwyr dyddiol.

Unrhyw beth arall?

  • mae Nant Gwrtheyrn yn safle treftadaeth pwysig
  • arddangosfeydd hanes yn y capel
  • tŷ cyfnod yn dangos bywyd chwarel ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Nant Gwrtheyrn – profiad unigryw i bawb sy’n dysgu Cymraeg

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn