Canolradd
Addas ar gyfer pobl sydd yn dilyn CWRS CANOLRADD CBAC, neu gwrs tebyg, neu gwrs PELLACH.Dyddiadau’r cyrsiau
Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn archebu eich lle ar-lein NEU lawrlwythwch y
Ffuflen archebu cwrs
Neu os hoffech fynychu'r cwrs yn ddyddiol, cliciwch yma:

Mae rhai gweithgareddau yn cael eu cynnal y tu allan i’r stafell ddosbarth
Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at wneud y canlynol:
- rhoi a derbyn gwybodaeth bersonol, e.e. cefndir, teulu, gwaith, diddordebau; gofyn am / rhoi gwybodaeth debyg am bobl eraill
- disgrifio, gan ddefnyddio ystod eang o ansoddeiriau
- cymharu ansoddeiriau
- mynegi barn am bobl a phethau: meddwl bod, meddwl ei bod hi, ayb
- deall a defnyddio’r geiriau: hwn, hon, hyn, hwnnw, honno, hynny, y rhain, y rheina, y rheiny
- disgrifio a sôn am gynlluniau yn y dyfodol gan ddefnyddio’r dyfodol cryno
- siarad am y newyddion gan ddefnyddio ‘cael’ a’r amhersonol; gwrando ar benawdau’r newyddion, eu deall a’u trafod
- llongyfarch, dymuno’n dda a chydymdeimlo â rhywun; darllen a deall pytiau o bapurau bro
- dweud beth fasai rhywun yn ei wneud a beth ddylai rhywun ei wneud
- edrych ar idiomau cyffredin ac ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol.
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a gramadeg.
Er mwyn ein galluogi i deilwrio ein cyrsiau, a’n helpu i gwrdd yn effeithiol ag anghenion ein myfyrwyr, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i fyfyrwyr ar gyrsiau Canolradd gwblhau tasg ysgrifenedig fer cyn iddynt ddod ar y cwrs, a’i hanfon atom ymlaen llaw.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
*****
Archebwch yma
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334