Cyfleusterau
Llety
Mae myfyrwyr preswyl yn aros yn hen fythynnod y chwarelwyr sydd bellach wedi eu huwchraddio i safon gwesty pedair seren. Mae gennym stafelloedd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
Arlwyo
Fel arfer, yn Neuadd y Nant y gweinir prydau bwyd a diodydd. Bydd ein staff cyfeillgar yn barod iawn i ddarparu prydau ar gyfer unrhyw anghenion deietegol.
Gwersi
Fel arfer, bydd y gwersi yn cael eu cynnal yn y Plas, cartref rheolwr y chwarel ers talwm. Mae’r stafelloedd wedi eu dodrefnu â’r cyfarfpar diweddaraf i’n galluogi ni i gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu, yn cynnwys dulliau traddodiadol.
Hamdden
Gall y myfyrwyr ddefnyddio’r lolfa i lawr y grisiau yn y Plas drwy gydol eu hamser yn y Nant. Mae’r lolfa yn stafell gyfleus i astudio neu i ymlacio ynddi gyda’r nos.
Gall myfyrwyr ymweld â’r arddangosfeydd treftadaeth a’r tŷ cyfnod hefyd tra maen nhw’n aros yn y Nant, a dysgu am hanes yr ardal.
Y Plas, hen gartref rheolwr y chwarel, ydy canolfan addysg Nant Gwrtheyrn