Cwrs Dysgu Popeth
26-30 Mawrth, 2012
Yn syth o Gariad@Iaith! Rydyn ni'n falch o groesawu Ioan Talfryn, 'Popeth Cymraeg', i'r Nant eto i gynnig cwrs dwys sy'n defnyddio'r dulliau mwyaf arloesol mewn dysgu iaith.
Addas i bobl sydd wedi gwneud 6 mis neu fwy, mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sydd eisiau profiad cyflawn o ddysgu yn hytrach nag astudio gramadeg. Mewn cwrs Dadawgrymeg cyflwynir swp enfawr o iaith, ond mae’r gwersi wedi’u strwythuro fel bod y dysgwyr yn amsugno iaith, yn debyg iawn i’r ffordd mae plant yn dysgu. Stori ydy sylfaen y cwrs, ac mae’n defnyddio cerddoriaeth, gemau a gweithgareddau hwyliog. Erbyn diwedd y cwrs dylai’r dysgwr fod wedi cynyddu ei allu i ddeall Cymraeg llafar ac yn teimlo’n fwy hyderus wrth siarad yr iaith.
Os hoffech ddysgu mwy am y cwrs cysylltwch â Pegi (pegi@nantgwrtheyrn.org ) neu Llinos (llinos@nantgwrtheyrn.org ) 01758 750334.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334