Dulliau
Defnyddir dulliau addysgu iaith llwyddiannus ac anffurfiol sy’n mynd law yn llaw â ffyrdd eraill o ddysgu’r iaith, e.e. cyrsiau CBAC, Wlpan ac ati. Mae ein cyrsiau ni yn atodol i gyrsiau darparwyr eraill ac maent yn gyfle gwych i ymarfer, adolygu a chynyddu hyder wrth siarad.
Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle i bobl
ymarfer bob sgil ieithyddol – siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu – ond rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu hyder i siarad yr iaith, drwy eich annog i fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Nant.
Mae ein
tiwtoriaid profiadol yn gallu addasu rhywfaint ar gynnwys bob cwrs yn unol ag anghenion y grŵp, a chan na fyddwch chi byth mewn dosbarth o dros 15 o bobl byddwch yn siŵr o gael digon o sylw unigol. Gan fod pobl yn dod atom ni o bob cwr o Gymru a thu hwnt rhoddir sylw i Gymraeg y Gogledd a’r De a gwahaniaethau tafodieithol drwy gydol y cyrsiau.
Cliciwch yma ar gyfer y fersiwn Cymraeg o Lawlyfr y Dysgwyr:
Llawlyfr y Dysgwyr
Cliciwch yma ar gyfer y fersiwn Saesneg o Lawlyfr y Dysgwyr:
Learners Handbook
Mae myfyrwyr yn dysgu trwy bob math o weithgareddau
Cynhelir
gwersi dwys bob bore a phrynhawn. Bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer astudio personol a
gweithgareddau iaith ac
adloniant a fydd yn atgyfnerthu’r gwaith a wneir yn y dosbarth, ac yn adeiladu arno. Bydd un pnawn yn cael ei dreulio y tu allan i’r dosbarth yn y
gymuned er mwyn rhoi cyfle i chi ymarfer eich Cymraeg mewn sefyllfaoedd go iawn. Wrth gwrs bydd digon o gyfle i chi gymdeithasu, ymlacio ac ymarfer gyda’ch cyd-fyfyrwyr.
Mae’r tudalennau nesaf yn nodi dyddiadau ein holl gyrsiau iaith yn ystod 2011, ynghyd ag amlinelliad o amcanion a ffwythiannau ieithyddol bob cwrs. Fodd bynnag mae’n bwysig sylweddoli y
gall pob cwrs fod ychydig yn wahanol gan y bydd anghenion unigolion yn amrywio o gwrs i gwrs.
Wedi i chi gwblhau cwrs yn Nant Gwrtheyrn mae’n bwysig eich bod yn dal ati gyda’ch astudiaethau er mwyn datblygu eich sgiliau ieithyddol. Rydym yn hapus i gynnig
sesiwn anffurfiol ar ddiwedd pob cwrs lle y gallwn awgrymu pa gamau fyddai’n addas i chi eu cymryd nesaf fel unigolyn.