Mynediad - Rhan 1
Addas ar gyfer pobl sydd ag ychydig o gefndir yn y Gymraeg, ac sy’n gallu gwneud rhai pethau syml fel ynganu, rhifo, cyfnewid cyfarchion elfennol ac sy’n gwybod rhai geiriau a brawddegau syml. Cyn archebu, cliciwch yma i weld ein cynigion arbennig Dyddiadau’r cyrsiau
Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn archebu eich lle ar-lein NEU lawrlwythwch y
Ffuflen archebu cwrs
Neu os hoffech fynychu'r cwrs yn ddyddiol, cliciwch yma:

Myfyrwyr yn dysgu rhyngweithio trwy gyfrwng y Gymraeg
Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at wneud y canlynol:
- atgyfnerthu cynnwys y cwrs Cyn-Fynediad
- ymateb i gwestiynau’n holi am wybodaeth bersonol syml
- dysgu’r amser presennol yn fanwl
- mynegi hoffter neu ddiffyg hoffter, e.e. diddordebau
- dysgu patrymau sy’n esbonio lle mae pobl a phethau
- defnyddio rhifau, gwneud symiau arian syml, dysgu dyddiau’r wythnos, misoedd y flwyddyn, lliwiau
- gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop
- dweud faint o’r gloch ydy hi
- mynegi meddiant, e.e. mae gen i/’da fi …
- ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
*****
Archebwch yma
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334