Mynediad -Rhan 2
Addas ar gyfer pobl sydd wedi cwblhau CWRS MYNEDIAD CBAC, neu gwrs tebyg, neu sydd hanner ffordd drwy gwrs WLPAN. Cyn archebu, cliciwch yma i weld ein cynigion arbennig Dyddiadau’r cyrsiau
Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn archebu eich lle ar-lein NEU lawrlwythwch y
Ffuflen archebu cwrs
Neu os hoffech fynychu'r cwrs yn ddyddiol, cliciwch yma:
Mae myfyrwyr yn mwynhau dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau
Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at wneud y canlynol:
- adolygu patrymau’r amser presennol
- trafod y teulu
- siarad am ddigwyddiad yn y gorffennol syml, e.e. Es i i Bwllheli ddoe
- gofyn cwestiwn yn y gorffennol syml a’i ateb, e.e. Aethoch chi i Bwllheli ddoe?
- cyflwyno bôn berfenwau a datblygu’r defnydd o’r gorffennol syml
- mynegi eisiau neu angen
- gofyn am bethau, e.e. mewn caffi, tafarn neu siop
- dysgu enwau rhannau’r corff
- mynegi meddiant, e.e. fy nghar i, dy gar di, ei gar o/e, ei char hi
- sôn am ddigwyddiadau yn y dyfodol gan ddefnyddio ffurf gwmpasog bod, e.e. bydda i’n mynd
- ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol.
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
*****
Thank you too for a wonderful week at the Nant. it was fantastic and I can't wait to come back.
We thought the teaching style and methods were excellent and the friendly, committed group of students really made the experience bendigedig.
Archebwch yma
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334