Pa Gwrs Cymraeg?
CAEL HYD I’CH LEFEL CHI
Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw.
Rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol:
- Cyfeiriwch at y canllawiau sy’n cyflwyno bob lefel, e.e
“Addas ar gyfer pobl heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Cwrs delfrydol i baratoi ar gyfer mynd ar gwrs MYNEDIAD Rhan 1” - Os ydych chi’n dilyn cwrs eisoes, nodir pa lefel
Wlpan, Pellach, Uwch neu Feistroli – sy’n cyfateb i gyrsiau’r Nant, er mwyn eich helpu i ddewis y cwrs mwyaf addas ar eich cyfer chi. Cofiwch gysylltu â ni’n uniongyrchol os ydych chi’n ansicr ynglŷn â pha lefel fyddai’n addas
- Os ydych chi’n astudio’r Gymraeg mewn rhyw ffordd arall
megis astudio ar eich pen eich hun, cyrsiau ar-lein ac ati, mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu ag un o’n tiwtoriaid (01758 750334) am gyngor cyn penderfynu ar ba gwrs i ddod
- Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel
awgrymwn eich bod yn cysylltu â thiwtor yn Nant Gwrtheyrn i drafod eich anghenion trwy ffonio 01758 750334. Ni fydd y tiwtor ar gael bob amser gan y bydd yn addysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i’r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosib.
- Hunain asesu
Er mwyn cael syniad bras o’ch lefel gellwch brofi eich hun yn “stafell gefn” gwefan S4Cymraeg. Fodd bynnag, awgrymwn eich bod yn cysylltu ag un o’n tiwtoriaid wedyn i ofalu eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
Am fwy o wybodaeth, ewch i:

Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334