Nant Gwrtheyrn
Get Flash Player
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : How To Book
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Sut i Archebu

Y Broses Archebu:

Gellwch archebu ar-lein drwy glicio ar Archebwch Nawr gyferbyn â’r cwrs rydych am ei fynychu ar bob tudalen gwrs unigol. Neu gellwch lawrlwytho ac argraffu ein ffurflen archebu a’i hanfon i Nant Gwrtheyrn gyda’ch taliad. Gellwch hefyd gysylltu â Swyddfa Nant Gwrtheyrn.


Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho


Rhaid archebu lle ar gwrs o leiaf 3 wythnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs.



Thoughtful man

Gofalwch eich bod wedi dewis cwrs ar y lefel iawn cyn archebu lle

Os ydych chi’n archebu lle ar-lein, fe dynnir cost lawn y cwrs o’ch cerdyn credyd/debyd ar unwaith. Mi fyddwch yn derbyn neges awtomatig yn cadarnhau'r taliad ac wedyn byddwch yn derbyn cadarnhad trwy'r post o fewn 7 diwrnod gwaith. 




Os byddwch chi’n archebu drwy’r post dylid anfon blaendal o 25% o gost lawn y cwrs gyda’ch ffurflen archebu. Ni fedrwn brosesu eich archeb heb flaendal. Nid oes modd hawlio’r blaendal yn ôl os na fyddwch yn dod ar y cwrs.


Bydd y 75% sy’n weddill yn cael ei dynnu o’ch cyrif wythnos cyn y cwrs.


Os ydy eich cyflogwr yn talu am y cwrs bydd Nant Gwrtheyrn yn anfonebu eich cyflogwr am y gost lawn.


Mae’r swm ddyledus yn daladwy ar y dyddiad a nodir ar eich anfoneb.

Canslo Cwrs

Mae angen o leiaf 6 o bobl ar y cwrs er mwyn medru cynnal cwrs Cymraeg i Oedolion.


Os oes rhaid i Nant Gwrtheyrn ganslo cwrs rhoddir gwybod i chi bythefnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs. Dan yr amgylchiadau hyn bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu NEU gellwch ddod ar gwrs arall tebyg o fewn 12 mis.


Os ydych chi’n penderfynu canslo cwrs cewch ddewis trosglwyddo eich archeb a’ch blaendal i gwrs arall tebyg o fewn 6 mis; fel arall ni fydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu a bydd yn rhaid i Nant Gwrtheyrn godi’r ffïoedd canlynol: canslo 8 wythnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs: 50% o’r gost lawn; canslo 4 wythnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs: 75% o’r gost lawn; peidio â chyrraedd o gwbl neu gadael yn gynnar: 100% o’r gost lawn.

Wedi archebu eich lle ar gwrs, yntau ar-lein neu trwy'r post, bydd cadarnhad yn cael ei yrru atoch trwy'r post. Dyma fydd y sicrwydd bod eich lle wedi ei gadarnhau ar y cwrs dan sylw.

Consesiynau

  • cynigir gostyngiad o 5% oddi ar bob cwrs iaith i aelodau Cyfeillion y Nant
  • cynigir gostyngiad o 10% oddi ar bob cwrs iaith i unrhyw un sydd heb fod mewn gwaith llawn amser. Anfonwch gopi o dystiolaeth ddilys, e.e. cerdyn myfyriwr, tocyn bws/trên am ddim, gyda’ch ffurflen archebu. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw eich bod yn gwneud cais am ostyngiad os gwelwch yn dda.
  • cynigir gostyngiad arbennig o £80 oddi ar unrhyw gwrs 5 niwrnod neu £50 oddi ar unrhyw gwrs 3 diwrnod i bobl sy’n dod yn ôl i’r Nant ar gwrs yn dilyn myncyhu cwrs yn y flwyddyn addysgol flaenorol neu sy’n mynychu ail gwrs yn ystod yr un flwyddyn addysgol. Ni ellir hawlio’r ddau ostyngiad yma gyda’i gilydd.



Mae arian ar gael ar adegau i gynorthwyo pobl sy’n dioddef caledi ariannol i fynychu cyrsiau Nant Gwrtheyrn. Gellir cael manylion drwy gysylltu â staff y Swyddfa neu’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol.

Trefniadau’r Cyrsiau

Ar wahân i Cyn-Fynediad, Hyfedredd a Chyrsiau Atodol, mae ein cyrsiau i gyd yn dechrau ar fore Llun ac yn dod i ben ar y pnawn Gwener.



Bydd Cyrsiau Cyn-Fynediad yn dechrau naill ai ar nos Wener ac yn dod i ben ar y pnawn Sul, neu’n dechrau ar fore Mercher ac yn dod i ben ar y pnawn Gwener.





Bydd Cyrsiau Hyfedredd yn dechrau naill ai ar fore Llun ac yn dod i ben ar y pnawn Mercher, neu’n dechrau ar fore Mercher ac yn dod i ben ar y pnawn Gwener.

Cyfeiriwch at yr adrannau am ein Cyrsiau Atodol i gael manylion y cyrsiau hyn.

Bydd manylion pellach yn cael eu hanfon yn y Pecyn Croeso a fydd yn cadarnhau eich archeb 6 wythnos cyn i’r cwrs ddechrau.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn