Uwch
Addas ar gyfer pobl sy’n dilyn cwrs UWCH neu gwrs MEISTROLI, neu gyrsiau ar lefel debyg.Dyddiadau’r cyrsiau
Cliciwch ar y dyddiadau er mwyn archebu eich lle ar-lein NEU lawrlwythwch y
Ffuflen archebu cwrs
Neu os hoffech fynychu'r cwrs yn ddyddiol, cliciwch yma:

Yn Nant Gwrtheyrn ceir pwyslais ar ddefnyddio Cymraeg y tu allan i’r stafell ddosbarth
Ar y cwrs hwn byddwn yn anelu at wneud y canlynol:
- adolygu prif batrymau’r iaith (amserau’r berfau, cymalau, arddodiaid, cymharu ansoddeiriau, treigladau, ayb)
- ehangu geirfa ac ymarfer sgiliau ieithyddol ar lafar ac ar bapur mewn amrywiol gyd-destunau
- cynnal sgwrs am y teulu, gwaith, diddordebau, ayb, ac ymateb yn briodol
- mynegi barn am bynciau llosg y dydd
- darllen, deall ac ymateb i erthyglau o bapurau newydd, papurau bro a chylchgronau
- trafod idiomau a diarhebion
- dechrau edrych ar ffurfioldeb y Gymraeg ysgrifenedig.
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a gramadeg.
Er mwyn ein galluogi i deilwrio ein cyrsiau, a’n helpu i gwrdd yn effeithiol ag anghenion ein myfyrwyr, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i fyfyrwyr ar gyrsiau Uwch gwblhau tasg ysgrifenedig fer cyn iddynt ddod ar y cwrs a’i hanfon atom ymlaen llaw.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
Cliciwch yma i weld ein taflen ar gyfer dysgwyr rhugl.
Dysgwyr Rhugl
*****
Archebwch yma
Dysgwyr Rhugl
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334