Cynigion Arbennig
Gwella’ch Cymraeg. Gostyngiadau arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig
Ydych chi’n byw, gweithio, gwirfoddoli neu’n gweithio er lles ardal wledig yng Ngogledd Cymru?
Ydych chi eisiau gwella’ch Cymraeg?
Mae’n bosib eich bod yn gymwys ar gyfer grant i fynychu cwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn am £125 yn lle’r £495 arferol.
I weld os ydych chi’n gymwys, cliciwch isod:
Gwynedd
Gwynedd Fflint
Fflint Conwy
http://www.conwy.gov.uk/drcllrpo.asp?cat=2325&doc=2578&Language=2 Sir Ddinbych
Dinbych Wrecsam
Wrecsam Mon Pob ardal yn gymwys
Mae gennym gynigion newydd drwy’r adeg. Cofiwch gadw llygad ar ein gwefan!
Cynigion Arbennig Eraill
Cynigir
gostyngiad o 5% oddi ar unrhyw gwrs iaith i aelodau Cyfeillion y Nant. Dylech nodi eich bod yn hawlio’r gostyngiad ar eich ffurflen gais.
Cynigir
gostyngiad o 10% oddi ar unrhyw gwrs i unrhyw un sydd heb fod mewn gwaith llawn amser. Anfonwch dystiolaeth ddilys, e.e. cerdyn myfyriwr, tocyn bws/trên am ddim, gyda’ch ffurflen archebu os gwelwch yn dda. Dylech nodi eich bod yn hawlio’r gostyngiad ar eich ffurflen gais.
Cynigir
gostyngiad arbennig o £50 oddi ar unrhyw gwrs 5 niwrnod neu
£30 oddi ar unrhyw gwrs 3 diwrnod neu
£20 oddi ar unrhyw gwrs penwythnos i bobl sy’n dod yn ôl i’r Nant ar gwrs yn dilyn mynychu cwrs yn ystod y 12 mis diwethaf. Dylech nodi eich bod yn hawlio’r gostyngiad ar eich ffurflen gais.
Dysgwyr Gwynedd
Ffoniwch ni (01758 750334) i holi am gynigion arbennig i drigolion lleol.
Ni ellir hawlio dau ostyngiad gyda’i gilydd.Cysylltwch gyda'r swyddfa neu cwblhewch y ffurflen isod a'i anfon atom
Ffuflen archebu cwrs