Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : How to find us
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Sut i gyrraedd Nant

SAT NAV: LL53 6NL





Car

Os ydych yn dod ar gwrs neu i aros yn Nant Gwrtheyrn mae croeso i chi ddod â char i lawr i’r pentref a’i adael yn y maes parcio bychan. Os ydych yn dod i Nant Gwrtheyrn fel ymwelydd am y dydd neu ychydig oriau, gofynnwn yn garedig (oherwydd diffyg lle i barcio a diogelwch ar y ffordd) i’r bobl hynny sy’n gallu gwneud, gerdded i lawr o’r maes parcio sydd ar y chwith ym mrig yr allt. Byddwch yn cymryd tua 20-30 munud i gerdded i lawr a thua 40 – 50 munud i gerdded yn ôl i fyny. Mae croeso i unrhywun sydd yn methu cerdded ymhell, am resymau corfforol, ddod â char i lawr i’r pentref.

O gyfeiriad Caernarfon:

Dilynwch yr A499 i gyfeiriad Pwllheli hyd nes y gwelwch yr arwyddion brown sy'n eich arwain i Nant Gwrtheyrn. Trowch oddi ar yr A499 yn Llanaelhaearn i gyfeiriad Nefyn (B4417). Wedi i chi gyrraedd pentref Llithfaen, trowch i’r dde i fyny’r allt yn y groesffordd, gyferbyn â’r siop a’r Swyddfa Bost. Dilynwch y ffordd hon am tua 2 filltir (3.3km) heibio i dai ar y dde a maes parcio ar y chwith cyn i’r ffordd gulhau a dechrau mynd i lawr gallt eithaf serth i lawr y dyffryn. Byddwch yn ofalus ar y ffordd hon gan nad oes llawer o fannau pasio ar ei hyd. Mae maes parcio bychan ar y dde cyn i chi gyrraedd canol y pentref. 


o gyfeiriad Porthmadog:

Dilynwch yr A497 i gyfeiriad Cricieth. Ewch drwy Cricieth a heibio i bentref Llanystumdwy. Trowch i’r dde oddi ar yr A497 ar ôl Llanystumdwy i gyfeiriad Chwilog (B4354). Dilynwch y ffordd hon nes dod i bentref Y Ffôr, yn y groesffordd trowch i’r dde i gyfeiriad Llanaelhaearn (A499). Yn Llanaelhaearn fe welwch yr arwyddion brown sy'n eich arwain i Nant Gwrtheyrn. Trowch i’r chwith i gyfeiriad Nefyn (B4417). Wedi i chi gyrraedd pentref Llithfaen, trowch i’r dde i fyny’r allt yn y groesffordd gyferbyn â’r siop a’r Swyddfa Bost. Dilynwch y ffordd hon am tua 2 filltir (3.3km) heibio i dai ar y dde a maes parcio ar y chwith cyn i’r ffordd gulhau a dechrau mynd i lawr gallt eithaf serth i lawr y dyffryn. Byddwch yn ofalus ar y ffordd hon gan nad oes llawer o fannau pasio ar ei hyd. Mae maes parcio bychan ar y dde cyn i chi gyrraedd canol y pentref. 


Trefnudiaeth gyhoeddus

Bws

Mae’r arosfan fws agosaf ym mhentref Llithfaen.


Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho

Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho

Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho

Tren

Mae’r gorsafoedd trên agosaf ym Mhwllheli a Bangor.

Cwch

Mae’r porthladd agosaf yng Nghaergybi.

Awyren

Mae’r meysydd awyr agosaf ar Ynys Mon ac yna ym Manceinion a Lerpwl



Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn