Llety
Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn Nant Gwrheyrn yn 1860 wedi cael eu trawsnewid i lety modern 4* sydd wedi eu credydu gan Croeso Cymru.
Bellach mae saith o’r bythynnod gwreiddiol yn cynnwys pedwar bwthyn hunan arlwyo gyda lle i 2 i 6 o oedolion gysgu ynddynt, rhai gyda stafell ymolchi en suite a rhai gyda stafell ymolchi i’w rhannu.
Yn y tai eraill ceir 30 stafell wely en suite, y rhan fwyaf ohonynt gyda dau wely sengl neu un gwely dwbl a dwy gydag un gwely sengl. Mae gan y rhan fwyaf o’r stafelloedd gwely stafelloedd ymolchi en suite gyda chawod, ar wahân i ddwy sydd â baddon a chawod dros y baddon.
Mae gan bob stafell gysylltiad â’r rhyngrwyd ond nid oes setiau teledu na radio yn Nant Gwrtheyrn. Nid yw’n bosibl cael signal a chredwn fod absenoldeb teledu a radio yn cyfrannu at dawelwch y Nant. Mae DVDs a chyfleusterau taflunio ar gael yn y Plas, y Capel neu Gaffi Meinir.
Ceir tair lolfa sydd yn addas ar gyfer grwpiau bach sy’n aros yn y stafelloedd gwely en suite. Mae stafelloedd eraill at ddefnydd grŵp ar gael yn y Plas neu Gaffi Meinir.
Gwresogir y bythynnod gan system wresogi o dan y llawr a chynhyrchir y gwres gan bympiau sy’n defnyddio gwres yr aer.
Mae’r lloriau a’r dodrefn wedi eu gwneud o dderw solat, ac mae’r stafelloedd yn cynnwys soffas lledr a chadeiriau esmwyth. Ceir gwelyau cyfforddus iawn wedi eu gwneud gan y Welsh Bed Company sy’n cyflenwi gwelyau ar gyfer gwestai 5* ar draws Ewrop.
Cysylltwch a Michelle ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
michelle@nantgwrtheyrn.org am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu llety yn Y Nant.