Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : Self Catering
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Bythynnod Hunan Arlwyo

Mae gan y bythynnod hunan arlwyo geginau gyda chyfarpar a lle ar gyfer bwyta ac ymlacio.

Rydym yn cynnig y bythynnod canlynol ar sail arhosiad 3 diwrnod o leiaf:

Gorllwyn

– lle i 4 mewn dwy stafell wely sengl ac un stafell gyda phâr o welyau a chyfleusterau i’w rhannu.

Tre Ceiri

– lle i 6 mewn dwy stafell wely fawr ddwbl (un gyda chyfleusterau en suite ar gyfer yr anabl) a dwy stafell wely sengl gyda stafell ymolchi i’w rhannu.

Llandaf

– lle i 6 mewn dwy stafell wely fawr ddwbl (un gyda stafell ymolchi en suite) a dwy stafell wely sengl gyda stafell ymolchi i’w rhannu.

Caerffili

– lle i 2 mewn un stafell wely fawr ddwbl a stafell ymolchi en suite.

Gallwn ddarparu cyfleusterau cysgu ychwanegol ar gyfer plant trwy drefniant - cysylltwch â ni am fanylion os gwelwch yn dda.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleusterau golchi a sychu dillad am bris isel iawn a gellir trefnu cael prydau bwyd yng Nghaffi Meinir. Mae pecyn croeso o fwyd sylfaenol hefyd ar gael.

Ceir cysylltiad â’r rhyngrwyd am ddim yn y tai ond nid oes teledu na radio ynddyn nhw gan na ellir cael signal yn y dyffryn diarffordd.

Cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch mair@nantgwrtheyrn.org am fwy o wybodaeth neu er mwyn archebu llety yn Y Nant.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn