Llety Gwely a Brecwast i Grwpiau
Ar gyfer grwpiau yn unig y mae llety gwely a brecwast ar gael yn Nant Gwrtheyrn. Gall y grwpiau yma amrywio o fod yn bobl ar eu gwyliau neu’n gerddwyr neu’n grŵp â diddordeb arbennig, i briodasau, partïon a dathliadau eraill, cynadleddau, cyrsiau hyfforddiant a chyfarfodydd.
Mae gan Nant Gwrtheyrn 30 stafell wely en suite: sef 2 sengl, 8 ddwbl, 14 gyda phâr o welyau a 6 stafell deulu.
Mae gan bob stafell ddesg a chadair, cadair ledr esmwyth, cysylltiad am ddim â’r rhyngrwyd a golau sy’n addas ar gyfer gweithio, darllen neu ymlacio.
Mae gan bob stafell wely stafell ymolchi en suite gyda chawod tra bo gan ddwy stafell faddon gyda chawod dros y baddon.
Gwresogir y stafelloedd gan system wresogi o dan y llawr. Mae’r lloriau a’r dodrefn wedi eu gwneud o dderw solat, a cheir carthen o dapestri traddodiadol Cymreig, o brint gan arlunydd lleol, ar y gwelyau. Mae enw pob bwthyn ar y wal ger y drws ffrynt ac mae gan bob stafell o fewn y bwthyn ei rhif ei hun.
Ym mhob stafell ceir ffolder dreftadaeth sy’n cynnwys manylion am gyfleusterau’r Nant ac agweddau o hanes y safle a’r arddangosfeydd treftadaeth.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Mair ar 01758 750 442 neu e-bostiwch
mair@nantgwrtheyrn.org.