Nant Gwrtheyrn
telephone 01758 750334 _     telephone [email protected]
A
A
A
English : News
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Trydar

Newyddion




Gweithdai Chwedlau yn dod i'r Nant!





Blog AOS



Newyddion o'r Nant - Mawrth 2017



Mae hi’n wanwyn o’r diwedd yma yn Nant Gwrtheyrn! Gyda’r llwybyr rhwng y Plas a Chaffi Meinir yn drwch o gennin pedr a’r ddwy faner yn chifio uwch ben y pentref rydym yn edrych ymlaen yn arw at y tymor newydd.

Fflagiau


A wyddoch chi am ffordd arall o gyrraedd y Nant ‘ma heb ddefnyddio’r ffordd neu’r môr? Wel, wedi ei guddio ymysg y coed mae trac beicio mynydd wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth gydag Antur Stiniog. Mae’r trac yn ymlwybro yr holl ffordd o’r maes parcio ym mhen y Nant ac i lawr i waelod y dyffryn! Er nad yw’r trac yn agored i’r cyhoedd, mae posib cofrestru ar un o ddyddiau ‘Uplift’ sydd yn cael eu trefnu gan Antur Stiniog, Blaenau Ffestiniog. Mae croeso i chi gysylltu gyda ni am ragor o wybodaeth!

Roeddem yn ffodus iawn o gael croesawu Academi Wales yn ôl i’r Nant unwaith eto eleni. Bu’r Academi yn cynnal eu Hysgol aeaf ar gyfer Llywodraeth Cymru yma yn y Nant yn ystod ail wythnos mis Chwefror gyda chynrychiolwyr o amryw o sefydliadau blaenllaw yng Nghymru yn mynychu.

Wedi seibiant dros fisoedd y gaeaf, mae tymor y cyrsiau wedi ail gychwyn gyda chyrsiau Cyn Fynediad a Mynediad 1 llawn yn ystod wythnosau cyntaf mis Chwefror! Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr amryw o gyrsiau arbennig sydd ymlaen yn ystod 2017. Y cyntaf o’r cyrsiau arbennig hyn yw cwrs wedi ei lunio a’i ddysgu gan yr awdures Bethan Gwanas – Merched mewn Llenyddiaeth Gymraeg. Mae’r cwrs yn agored i ddysgwyr profiadol neu Gymry Cymraeg, felly, cysylltwch gyda ni os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno!


Cefnogi dysgwyr i fwynhau cynhyrchiad newydd Cymraeg o Macbeth



Macbeth


Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod pecyn i ddysgwyr ar gael, wedi’i seilio ar ein cynhyrchiad nesaf, Macbeth. Crëwyd y pecyn i ddysgwyr gan Nant Gwrtheyrn, mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru gyda chymorth Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae’r pecyn yn cynnwys gwybodaeth a gemau i ddysgwyr a chanllaw ar wahân ar gyfer tiwtoriaid. Mae’r deunydd yn addas ar gyfer dosbarthiadau Uwch a Hyfedredd ac yn cynnwys gweithgareddau i’w cyflawni cyn gweld y ddrama, a rhai ar ôl ei gweld.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae’n bwysig iawn bod pob agwedd ar ein diwylliant cyfoes yn agored i’r rhai hynny sy’n dysgu’r Gymraeg. Dyna pam mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’r gwaith o lunio pecynnau i helpu dysgwyr fwynhau cynyrchiadau yn agor drws arall i’n dysgwyr ni.”

Meddai Mair Saunders, Prif Reolwr Canolfan Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o’r bartneriaeth yr ydym wedi ei chynnal gyda’r Theatr Genedlaethol yma yn Nant Gwrtheyrn ers tro drwy gynnal gwersi ar gyfer dysgwyr a llunio pecynnau sy’n cydfynd â’r cynyrchiadau. Pleser yw cael cyd weithio ar gynllun sydd yn galluogi’r rhai hynny sydd yn dysgu’r Gymraeg i fwynhau arlwy y Theatr Genedlaethol.”

Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae cydweithio â phartneriaid sy’n arbenigwyr yn eu maes yn bwysig iawn i ni. Edrychwn ymlaen at barhau’r cydweithio gyda Nant Gwrtheyrn a dechrau partneriaeth hir dymor gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn sicrhau bod ein cynyrchiadau’n berthnasol i bawb.”

Bydd perfformiadau byw o Macbeth yng Nghastell Caerffili 7 – 18 Chwefror, a hefyd, drwy fenter newydd gyffrous Theatr Gen Byw, bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddarlledu’n fyw i ganolfannau ar draws Cymru ar 14 Chwefror, gydag ail-ddangosiadau gydag is deitlau Saesneg hyd diwedd Ebrill i ddilyn.


Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru, yn agor adnoddau newydd Nant Gwrtheyrn.



Ar ddydd Iau'r 13eg o Hydref, bu Alun Davies AC, yn ymweld â Chanolfan Iaith genedlaethol Nant Gwrtheyrn, ble roedd yn agor adnoddau newydd y ganolfan. Mae’r adeiladau newydd yn cynnig adnodd ychwanegol i’r pentref gan gynnig llety ar gyfer hyd at 38 o bobl. Mae’r adnodd yn addas ar gyfer grwpiau, teuluoedd a sefydliadau i ddod i fwynhau arlwy’r Nant. Gyda buddsoddiad o £1.6 miliwn wedi ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Nant Gwrtheyrn wedi llwyddo i ehangu eu darpariaeth ar gyfer cyrsiau Cymraeg i Oedolion, cynadleddau, ymweliadau grŵp a phriodasau. Yn ystod ei ymweliad, bydd y gweinidog yn trafod strategaeth ddrafft y Gymraeg, Llywodraeth Cymru. Fel canolfan iaith genedlaethol ac un o’r prif ddarparwyr Cymraeg i Oedolion yng Nghymru, mae Nant Gwrtheyrn wedi ymrwymo i gynorthwyo’r Llywodraeth i sicrhau rhai o’r amcanion sydd yn cael eu hamlinellu yn y strategaeth ddrafft gan gynnwys; ‘annog a chefnogi’r broses o drosglwyddo’r iaith o fewn teuluoedd’ a ‘creu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle’. Bydd yr adnoddau newydd yn Nhŷ Canol yn cynnig y gofod delfrydol ar gyfer cyrsiau Cymraeg i’r teulu neu gyrsiau Cymraeg ar gyfer sefydliadau o bob math.

Cafodd y gweinidog ei groesawu i’r Nant gan Jeffrey Williams-Jones, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, Carl Clowes, sylfaenydd a llywydd Nant Gwrtheyrn, Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn a Jim O’Rourke, Ymgynghorydd. Bu cyfle i Alun Davies AC flasu rhai o’r danteithion sydd ar gael yng Nghaffi Meinir cyn cael ei arwain ar daith gerdded o amgylch y safle. Bu cyfle i’r gweinidog ymweld â’r Plas sef canolfan addysg Nant Gwrtheyrn.

Dywed Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn:

Rydym eisoes wedi croesawu amryw o grwpiau i Dŷ Canol ac mae’r adeilad yn profi i fod yn ychwanegiad defnyddiol dros ben yn y pentref. Dyma gyfnod cyffrous iawn yn y Nant a bydd yr adnodd arbennig yma yn ein galluogi i wella ac ehangu ein darpariaeth ar gyfer y cwsmer. Pleser yw croesawu Alun Davies AC i’r Nant ac rwyf yn edrych ymlaen at ei gyflwyno i’r ddarpariaeth amrywiol sydd gennym i’w gynnig.

Alun Davies yn agor Ty Canol




Nant Gwrtheyrn i gynnal cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol


Logo dysgucymraeg

Mae Canolfan Nant Gwrtheyrn wedi’i gwahodd i weithredu ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Bydd Nant Gwrtheyrn yn gyfrifol am ddarparu cyrsiau Cymraeg i Oedolion ar ran y Ganolfan, corff cynllunio newydd sy’n gyfrifol am bob agwedd ar y maes. Mae Nant Gwrtheyrn ymhlith un ar ddeg o ddarparwyr sydd wedi’u gwahodd i weithredu ledled Cymru ar ran y Ganolfan. Bydd y drefn newydd, a ddaw i rym ar 1 Awst, yn adeiladu ar y gwaith pwysig a gyflawnwyd yn flaenorol gan chwech o ganolfannau Cymraeg i Oedolion. Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Dyma’r tro cyntaf i gorff cynllunio cenedlaethol gydlynu’r ddarpariaeth Cymraeg i Oedolion ac mae ein nod yn glir – denu dysgwyr newydd i’r Gymraeg a chynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r iaith bob dydd.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda Nant Gwrtheyrn wrth i ni fynd ati i gydlynu’r ddarpariaeth, gan gyflwyno cwricwlwm ac adnoddau cyfoes a chyffrous a bod yn bwynt cyswllt canolog ar gyfer yr holl wybodaeth am ddysgu’r Gymraeg.”

Meddai Mair Saunders, Rheolwr Nant Gwrtheyrn:

“Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig profiad helaeth o’r maes ynghyd â dealltwriaeth drwyadl o anghenion dysgwyr yn genedlaethol a rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Ganolfan.” Bydd digwyddiad anffurfiol i lansio’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cael ei gynnal am 2.00pm ar ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf ym Maes ‘D’ ar faes Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau.



Newyddion o'r Nant - Gorffennaf 2016



Mae nifer o grwpiau wedi ymweld â’r Nant yn ystod mis Mehefin. Cangen Merched y Wawr Llaniestyn oedd y cyntaf o’r rhain i ymweld a chael sgwrs am hanes y Nant, taith o amgylch y pentref a phryd o fwyd yng Nghaffi Meinir. Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o ganghennau Merched y Wawr Deudraeth a Llan Ffestiniog i’r Nant. Roedd y ddwy gangen wedi mwynhau gwibdaith o amgylch Pen Llŷn cyn dod i lawr i’r Nant am sgwrs, taith a phryd o fwyd. Gobeithio eich bod oll wedi mwynhau eich ymweliad â’r Nant.

Pleser oedd croesawu disgyblion ysgol Mountkelly o Sir Ddyfnaint yma i’r Nant yn ystod y mis. Roedd yr ysgol yn ymweld â gogledd Cymru ac yn cymryd rhan mewn llu o weithgareddau, gan gynnwys ymweliad â’r Nant. Bu’r disgyblion yn mwynhau taith gerdded o amgylch y pentref gan ddysgu’r hanes unigryw sydd yn perthyn i’r Nant. Yna, cafwyd gwers Gymraeg syml cyn mwynhau te prynhawn Cymreig yng Nghaffi Meinir.

Diolch i’r ddwy ysgol uwchradd leol a fu yn y Nant yn cynnal eu prom blynyddol. Bu Ysgolion Botwnnog a Glan y Môr yn y Nant yn ystod dau brynhawn ddiwedd y mis.

Gyda gwyliau’r haf yn agosáu, bu Ysgol Hirael yn y Nant am drip diwedd tymor yn ystod mis Mehefin. Bu’r disgyblion yn mwynhau clywed hanes Rhys a Meinir a gweld sut oedd teulu’r chwarelwyr yn byw yn y tŷ cyfnod cyn mynd ati i gymryd rhan mewn helfa drysor a gweithgareddau crefft.

Mae tipyn o ddysgwyr wedi bod yn mynychu’r cyrsiau yn ystod mis Mehefin a phob un ohonynt yn mwynhau gweithgareddau gwahanol ar brynhawniau Mercher. Bydd rhai yn mynd am drip i Bwllheli neu i ymweld â’r amgueddfa yn Nefyn a dysgwyr lefelau uwch yn cael cyfle i sgwrsio gyda phobl yr ardal. Mae’r sesiynau sgwrsio hyn yn profi’n boblogaidd iawn ymysg y dysgwyr – diolch yn fawr iawn i’r rhai sydd yn dod i lawr i’r Nant i gymryd rhan yn y sesiynau hyn!

Sgwrsio


Newyddion o'r Nant - Mehefin 2016



Wel, mae’r haul yn tywynnu ar y Nant ‘ma bob diwrnod erbyn hyn! Mae’r pentref yn werth ei weld, gyda phlanhigion yn blodeuo ym mhob twll a chornel – rhaid i mi ganu clodydd i Wyn y garddwr am ei waith caled! Braf yw gweld cynifer ohonoch chi drigolion Llŷn, ynghyd ag ymwelwyr yr ardal yn dod i lawr i’r Nant i fwynhau’r arlwy yn y Tŷ Cyfnod, y Ganolfan Dreftadaeth a’r Caffi, wrth gwrs.

Efallai bod rhai ohonoch wedi gweld eitem am ein Cwrs Natur ar raglen Heno, S4C, yn ddiweddar. Bu’r cwrs yn llwyddiant gyda chriw amrywiol o ddysgwyr ar wahanol lefelau yn cymryd rhan. Ar y diwrnod cyntaf, bu’r naturiaethwr Twm Elias yn arwain y dysgwyr ar daith gerdded o amgylch y Nant, i’r goedwig ac y lawr i’r traeth. Roedd y daith gerdded yn gyfle i Twm addysgu’r dysgwyr am rai o enwau Cymraeg y blodau a’r anifeiliaid gwyllt sydd i’w cael yn y Nant. Yna, cafwyd gweithdy fforio a choginio gyda Catrin Roberts ar ail ddiwrnod y cwrs. Ond, bu’n rhaid i Catrin ail feddwl ychydig am ble i fforio am y bwydydd gan fod geifr y Nant wedi bwyta’r rhan fwyaf o’r planhigion gwyllt! Diolch byth bod digonedd o blanhigion i’w cael yn y cloddiau o amgylch Llithfaen! Bu cyfle i bawb goginio’r hyn yr oeddent wedi ei fforio a bu gwledd o gawl dail poethion a bisgedi dant y llew!

Braf oedd croesawu criw Lleyn Ramblers yma i’r Nant yn ystod wythnos gyntaf y mis, gobeithio eich bod wedi mwynhau’r prynhawn yng Nghaffi Meinir. Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o Esgobaeth Bangor yn ôl i’r Nant am encil ddwy noson yn ystod y mis. Criw arall sydd wedi dychwelyd atom eleni yw cwmni C.K Tools o Bwllheli. Bu i’r cwmni gynnal cynhadledd ddeuddydd yma yn y Nant gyda 30 o staff y cwmni yn mynychu.



Newyddion o'r Nant - Mai 2016



Yda’ chi wedi bod draw i weld Caffi Meinir ar ei newydd wedd eto? Dewch da chi, mae’n werth ei weld! Braf oedd gweld cynifer ohonoch yn dod i lawr yma yn ystod gwyliau’r Pasg eleni. Cofiwch fod y Ganolfan Dreftadaeth, y Tŷ Cyfnod a’r Caffi yn agored pob dydd rhwng 10y.b a 4y.h.

Cynhaliwyd cynhadledd y Gymdeithas Gristnogaeth yma yn ystod ail benwythnos y mis gyda ffilm yn cael ei dangos ar y nos Wener a chyflwyniad gan John Gwilym Jones yn y capel ar y dydd Sadwrn. Gobeithio eich bod i gyd wedi mwynhau eich amser yma yn y Nant.

Bu cryn ddathlu yma yng ngwledd briodas Owain a Fflur o Dudweiliog ar y 9fed o Ebrill! Llongyfarchiadau mawr i’r ddau ohonoch a diolch i chi am ddewis y Nant fel lleoliad ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Rydym yn edrych ymlaen yn arw i groesawu Ana Chiabrando Rees yma i’r Nant yn ystod Mis Mai. Mae Ana yn dod i ymweld â Chymru'r holl ffordd o Batagonia. Bydd Ana yn treulio wythnos yn y Nant yn gwneud gwaith Gwirfoddol gyda’r adran Addysg. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i’r Nant i glywed Ana yn adrodd ei hanes ac yn rhoi sgwrs am Batagonia ar Nos Iau, Mai 19. Dewch yn llu!

O bryd i’w gilydd, rydym yn croesawu grwpiau o bedwar ban y byd yma i’r Nant. Llawer ohonynt yn awyddus iawn i ddysgu ychydig o’r iaith a’r hanes sydd yn perthyn i’r Gymraeg. Cawsom y pleser o groesawu criw brwdfrydig o fyfyrwyr o Lydaw yma i’r Nant yn ddiweddar. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn siaradwyr Llydaweg iaith gyntaf ac roedd yn eithriadol o ddiddorol gweld cynifer ohonynt yn cael cystal gafael ar y Gymraeg mewn ychydig o amser. Wedi’r wers, cafwyd taith dywys o amgylch y pentref a chyfle i glywed hanes unigryw'r Nant cyn gorffen yr ymweliad gyda the Cymreig yng Nghaffi Meinir.

Cynhaliwyd cwrs lefel Mynediad 1 llawn dop yn ystod wythnos olaf y mis. Roeddem yn falch o groesawu Jo Toft o Fynytho ar y cwrs. Bydd Jo, sydd yn olygydd y cylchgrawn newydd We Love Llŷn, yn ysgrifennu am ei phrofiad yma yn y Nant yn rhifyn haf y cylchgrawn newydd.

Llongyfarchiadau mawr i Heledd Davies-Jones, sydd yn gweithio yn adran gyllid y Nant, a’i gŵr Aled ar enedigaeth merch fach o’r enw Nansi. Dymuniadau gorau i chi fel teulu oddi wrth bawb yma yn y Nant.

Sylfaenydd Nant Gwrtheyrn yn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd o’r RCGP



Mae’r Meddyg Carl Clowes, sylfaenydd Canolfan Iaith a threftadaeth Nant Gwrtheyrn, wedi ei anrhydeddu yn gymrawd anrhydeddus o’r Royal College of General Practitioners. Ef yw’r cyntaf i dderbyn yr anrhydedd ar sail gwaith sydd yn ychwanegol i’w waith fel Meddyg Teulu. Mae’r Meddyg Carl Clowes yn derbyn yr anrhydedd ar sail ei gyfraniad i’w faes arbenigol sef ‘Iechyd cyhoeddus’ ynghyd â’i gyfraniad eithriadol i faes iechyd yn Lesotho.

Ef oedd Cadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y berthynas arbennig rhwng Cymru a Lesotho a sefydlwyd yn 1985. Bellach, mae’n Llywydd am Oes yr elusen honno ac yn Is-gennad Lesotho yng Nghymru. Ers 1985, mae gwaith Dolen Cymru wedi newid bywydau cymunedau, ysgolion, sefydliadau iechyd ac unigolion yn Lesotho trwy ddatblygu hyfforddiant iechyd meddwl, cyfnodau gweithio i fyfyrwyr meddygaeth a datblygu rhaglen HIV/AIDS.

Sylfaenodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 wrth weithio fel meddyg teulu ym mhractis meddygol Bro’r Eifl, ef oedd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn ystod cyfnod ffurfio’r ganolfan a phellach ef yw Llywydd yr Ymddiriedolaeth.

Yn 2009, fe`i gydnabuwyd gydag anrhydedd sifil uchaf Lesotho sef Member of the Most Loyal Order of Ramatseatsana. Yn aelod o’r Orsedd, fe’i anrhydeddwyd gydag Urdd y Derwyddon am "ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol". Y mae ganddo ddiddordeb o hyd yn ei faes arbenigol sef `iechyd cyhoeddus` ac mae wedi ei anrhydeddu fel Cymrawd Iechyd Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Mae’n aelod cyfredol o Fwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wrth siarad am ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd , meddai Carl: "Mae'n anrhydedd fawr i gael fy nghydnabod fel hyn gan yr RCGP. Fy angerdd personol yw grymuso cymunedau, sydd, yn ei dro, yn grymuso pobl. Gyda grym daw hyder a llai o ddibyniaeth ar ffordd o fyw sy'n debygol o fod yn niweidiol i iechyd."

Newyddion o'r Nant - Chwefror 2016



Er nad yw hi’n un ddieithr i’r Nant o bell ffordd, braf yw cael croesawu Eleri Llewelyn Morris i’w swydd newydd fel Prif Diwtor. Mae Eleri wedi bod yn diwtor achlysurol yn y Nant ers blynyddoedd a bydd ei phrofiad a’i brwdfrydedd yn gaffaeliad mawr i’r ganolfan.

Er nad oes gwersi yn cael eu cynnal yn ystod mis Ionawr, mae’r adran addysg wedi bod wrthi’n ddiwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn paratoi a chynllunio cyrsiau newydd ar gyfer 2016. Cwrs newydd sbon yw’r cwrs ‘Blas o Lŷn’ a fydd yn cael ei gynnal rhwng y 19ed a’r 21fed o Ebrill. Cwrs newydd a chyffrous sy’n cyflwyno iaith, ardal a diwylliant Pen Llŷn i bobl ddi-Gymraeg a dechreuwyr yw ‘Blas o Lŷn’. Bydd y cwrs yn cynnig teithiau a phrofiadau diddorol o amgylch yr ardal gydag ymweliad ecsgliwsif i fragdy Cwrw Llŷn! Ydych chi’n adnabod rhywun a fyddai â diddordeb? Rhywun sydd newydd symud i’r ardal ac yn awyddus i ddysgu’r Iaith ac am hanes a diwylliant Pen Llŷn, efallai?

Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf y flwyddyn ddiwedd Ionawr a braf iawn oedd cael croesawu aelodau o Esgobaeth Bangor yn ôl i’r Nant unwaith eto.

Roedd bwrlwm yng Nghaffi Meinir fore Llun y 25ain o Ionawr gan fod rhaglen Bore Cothi BBC Radio Cymru wedi ymweld â’r Nant i ddathlu diwrnod Santes Dwynwen. Bu Siân Cothi yn sgwrsio gydag aelodau o staff ac yn blasu rhai o ddanteithion Caffi Meinir. Cafwyd performiad byw gwerth chweil gan Seimon Menai, hefyd.

Newyddion o'r Nant - Ionawr 2016



Blwyddyn Newydd dda oddi wrth bawb yma yn Nant Gwrtheyrn! Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r dathlu yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Bu cryn ddathlu yma yn y Nant nos Galan, unwaith eto eleni. Wedi’r wledd flasus, bu’r amryddawn Dilwyn Morgan yn diddanu’r gynulleidfa gyda’i hiwmor ffraeth. Ac wrth gwrs, cafwyd perfformiadau gwych gan Y Chwedlau a Geraint Lovgreen a’r Enw Da. Diolch i bawb am eu cefnogaeth.

Braf oedd croesawu disgyblion o Ysgol Pont y Gof, Botwnnog, a fu yma am ymweliad cyn y Nadolig. Bu’r disgyblion wrthi’n brysur yn gwneud crefftau Nadoligaidd gyda Meinir a Miriam.

Braf, hefyd, oedd croesawu aelodau o gangen Merched y Wawr Cemaes, Ynys Môn, yn ôl i’r Nant ar gyfer eu parti Nadolig. Daeth y gangen draw i’r Nant am ymweliad yn ystod yr haf, ac roedd yn bleser eu gweld yn y Nant unwaith eto.

Mae Caffi Meinir bellach wedi ail agor ar ôl seibiant rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd. Rydym yn edrych ymlaen at noson arbennig i ddathlu Santes Dwynwen, cysylltwch â Chaffi Meinir am fwy o wybodaeth: 01758 750 442.

Er bod yr adran addysg yn cael seibiant byr o’r dysgu yn ystod mis Ionawr, mae pawb yn brysur yn paratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn edrych ymlaen at flwyddyn arbennig o ddysgu ac arbrofi gyda dulliau newydd yn ystod 2016.

Lansiad e-nant!



Lansiad enant


Mae cydweithio agos rhwng Nant Gwrtheyrn a Phrifysgol Caerdydd dros y tair blynedd diwethaf wedi dwyn ffrwyth wrth lansio ‘e-nant’, pecyn o adnoddau digidol ar gyfer dysgwyr lefel Mynediad y Nant. Cynhaliwyd y lansiad swyddogol yn neuadd y Nant fore Gwener y 6ed o Fawrth. Yn ogystal â dysgwyr presenol y Nant, cafwyd cynrychiolaeth o Brifysgol Caerdydd, Cymraeg i Oedolion a gan aelodau o fwrdd rheoli Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn.
Torrwyd cacen arbennig i nodi’r achlysur gan Y Meddyg Carl Clowes, Sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, Mair Saunders, Prif weithredwraig Nant Gwrtheyrn, Pegi Talfryn, Rheolwr Addysg yngŷd â Jennifer Needs.
Ffrwyth gwaith ymchwil Jennifer Needs, Prifysgol Caerdydd, yw’r pecyn. Ei nod oedd i greu deunyddiau pwrpasol i gynorthwyo’r myfyrwyr Mynediad i adolygu’r gwaith a ddysgwyd yn y Nant yn ogystal â’u paratoi i sefyll arholiad CBAC. Roedd y lansiad yn gyfle i ddysgwyr presenol y Nant gael blas ar beth oedd gan yr adnodd newydd i’w gynnig. Noddwyd yr ymchwil gan KESS, menter sgiliau lefel uwch i Gymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru ac a gyllidir yn rhannol gan raglen gydgyfeiriant Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.
Dywed Adrian Price, Cyfarwyddwr Gweithredol Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg a goruchwyliwr Jennifer, “Am nifer o flynyddoedd, mae Canolfan Cymraeg i Oedolion Caerdydd a Bro Morgannwg wedi bod yn arloesi cyrsiau dysgu-cyfunol, sy’n golygu cyfuno dysgu wyneb-i-wyneb a dysgu ar-lein. Mae wedi bod yn gyfle gwych i’r Brifysgol weithio gyda chwmni bach gwledig er lles yr iaith Gymraeg.”
Yn ôl Pegi Talfryn, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn, “bydd yr adnoddau hyn o fudd mawr i’n dysgwyr. Mae Jennifer wedi creu adnoddau cynhwysfawr sy’n hawdd i’w ddefnyddio. Mae cymaint o ddysgwyr yn defnyddio adnoddau digidol ac mae’n siŵr y bydd croeso mawr iddynt.”
Dywed Jennifer, “mae’n fraint cael y cyfle i greu rhywbeth unigryw a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar daith ddysgu dysgwyr Nant Gwrtheyrn. Rwy’n mawr obeithio y bydd dysgwyr y Nant yn y dyfodol yn teimlo bod yr adnoddau nid yn unig yn effeithiol, ond yn berthnasol iddynt ac yn ddifyr hefyd.”

[email protected] yn Nant Gwrtheyrn


Mae cyfres newydd [email protected] yn cychwyn dydd Mercher, Mehefin 11eg 2014 am 8yh ar S4C. Dilynwch yr 8 seleb wrth iddynt geisio meistrioli'r iaith Gymraeg yn ystod yr wythnos. Bydd yr enillydd yn dod yn ôl i'r Nant am gwrs preswyl. Sut fydd y personoliaethau yn ymdopi gyda bywyd ym Mhen Llyn? Wythnos o emosiynau cryf siwr o fod!

I gyd fynd efo'r digwyddiad, mae cystadleuaeth arbennig a bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynychu cwrs preswyl yn y Nant am wythnos, AM DDIM! Cliciwch yma i ymgeisio. Pob lwc!

Selebs

Jambori Mehefin - Diwrnod hwyliog i'r teulu i gyd



Fe gynhaliwyd prynhawn prysur o weithgareddau yn Nant Gwrtheyrn ar ddydd Sul, Mehefin 30ain. Yn ogystal a gwledd o gerddoriaeth byw gan Band Arall a'r Plu, daeth amryw o wynebau cyfarwydd i'r pentref i gyfarfod yr ymwelwyr - Jac y Jwc, Capten Hook a Sam Tan.

Jac y Jwc 2Capten Hook

Diddanwyd y plant trwy gydol y prynhawn wrth gael peintio eu gwynebau, dysgu triciau newydd gan ein consuriwr a Mr Balwns tra roedd eu rhieni yn cael munud i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd godidog yng Nghaffi Meinir. Roedd bws mini yn rhedeg i fyny i lawr yr allt er mwyn hwyluso'r parcio a diolch i nawdd sylweddol gan Gronfa'r Degwm, roedd mynediad i'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i'r holl ymwelwyr.

BybbylsCyngor Gwynedd


Dal i garu’r iaith

Mae’r actores o Abertawe, Melanie Walters o Gavin a Stacey, yn parhau â’i hymdrechion i feistroli’r iaith Gymraeg trwy fynychu cwrs Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Iaith breswyl genedlaethol. Mi ddaeth i’r ganolfan fel gwobr am ennill ar y rhaglen deledu boblogaidd ar S4C, [email protected].

Mae dod i’r Nant yn dod â hi gam yn nes at wireddu ei breuddwyd, fel y dywedodd pan ymddangosodd ar [email protected], Dw i’n teimlo bod darn ohonof ar goll. Roedd teulu fy nhad i gyd yn siaradwyr rhugl, ond ni chafodd yr iaith ei throsglwyddo i ni’r plant. Mae hwn yn gyfle gwych i gadw’r iaith yn fyw trwy’r cenedlaethau, i gynorthwyo ac annog fy mab i’w dysgu, a gobeithio codi ei blant gyda [email protected]

Mae Melanie, sydd wedi astudio’r iaith yn ysbeidiol yn y gorffennol, wedi llwyr ymdaflu i mewn i’r cwrs gyda brwdfrydedd. Mae hi wedi dewis mynychu cwrs ar y lefel Ganolradd, sy’n golygu bod y cwrs cyfan yn cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd Mel wedi mwynhau’r profiad, fel y dywedodd yn ei geiriau ei hun, “Rydych chi’n cael profiad anhygoel yma yn Nant Gwrtheyrn. Cyn gynted â’ch bod yn cyrraedd, mae’r heddwch a’r golygfeydd syfrdanol yn eich ymlacio chi. Pa ffordd well i ddysgu Cymraeg na llwyr ymdrochi eich hun mewn cwrs dwys, beth bynnag yw’ch lefel, mewn amgylchiadau mor hyfryd. Mae Cwrs Canolradd yn dipyn o her i mi, ond dyw hynny ddim yn beth drwg. Yn ystod yr wythnos yn Fforest ([email protected]) profais gynnydd mewn dealltwriaeth. Dyna’r wefr o fynychu cwrs dwys yma, gyda’r athrawon a staff ardderchog, llety glân a chartrefol, cyfleon i fynd am dro y bwyd ac, wrth gwrs, y golygfeydd godidog, sy’n rhoi cymaint o foddhad i’r profiad.

Diolch yn fawr i Nant Gwrtheyrn a [email protected] am fy nghynorthwyo ar y daith i siarad Cymraeg yn rhugl trwy wneud y profiad mor bleserus.


Mawrth 2013
Astudio / StudyingMwynhau / Enjoying

Prif Weinidog Cymru'n agor canolfan eiconig yn y Gogledd



Agorwyd Ganolfan Nant Gwrtheyrn yn swyddogol gan Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Mae hyn yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol a wnaed i drawsnewid y ganolfan yn ganolfan dwristiaeth unigryw.

Gwnaed gwaith adnewyddu gwerth £5m i’r pentref chwarel hwn o oes Fictoria. Mae yma lety 4 seren, ffordd fynediad newydd, stafell ar gyfer cynnal cynadleddau, priodasau a digwyddiadau eraill, yn ogystal ag arddangosfeydd treftadaeth newydd sy’n cynnwys tŷ o 1910.

Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn yr agoriad:

Mae Nant Gwrtheyrn yn ganolfan o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, a hefyd yn gyflogwr lleol pwysig. Bydd y cyfleusterau newydd yn denu llawer iawn mwy o ymwelwyr dydd, twristiaid ac ymwelwyr lleol i ddysgu a mwynhau ei leoliad unigryw, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ardal.

Carwyn Jones

“Mae Canolfan Nant Gwrtheyrn wedi datblygu seiliau cadarn iawn yn y byd 'dysgu Cymraeg'. Mae'r buddsoddiad yn galluogi i'r busnes a'u holl adnoddau newydd arwain at ddyfodol llewyrchus iawn i'r Nant, ac mae hyn yn bennaf yn sgil adnewyddu'r hen fythynnod."

“Rwy'n falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu buddsoddi £3.8m yn y gwaith o adnewyddu. Mae'n bwysig iawn bod Nant Gwrtheyrn yn mynd o nerth o nerth a bod nifer o ffynonellau i gynnal eu hincwm trwy gydol y flwyddyn.


Agoriad Swyddogol

Meddai Carl Clowes, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn:

“Mae rhoi bywyd newydd i’r pentref yn hwb mawr i gyflogaeth a hyder lleol. Yn bwysig iawn, mae gennym bellach gyfleuster lleol a chenedlaethol i ddysgwyr Cymraeg ac atyniad i ymwelwyr preswyl a dydd sydd o’r ansawdd gorau posib.”Mwynhau / EnjoyingSwmbaBybbyls


Datblygwyd ganblahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334
Share Mae hyn yn
Mae’r safle yn defnyddio cwcis i storio gwybodaeth ar eich cyfrifiadur. Manylion pellach am sut i atal cwcis yn ein Polisi Cwcis
Rwy’n hapus gyda hyn
 

Cookies

What is a Cookie

A cookie, also known as an HTTP cookie, web cookie, or browser cookie, is a piece of data stored by a website within a browser, and then subsequently sent back to the same website by the browser. Cookies were designed to be a reliable mechanism for websites to remember things that a browser had done there in the past, which can include having clicked particular buttons, logging in, or having read pages on that site months or years ago.

NOTE : It does not know who you are or look at any of your personal files on your computer.

Why we use them

When we provide services, we want to make them easy, useful and reliable. Where services are delivered on the internet, this sometimes involves placing small amounts of information on your device, for example, your computer or mobile phone. These include small files known as cookies. They cannot be used to identify you personally.

These pieces of information are used to improve services for you through, for example:

  • recognising that you may already have given a username and password so you don’t need to do it for every web page requested
  • measuring how many people are using services, so they can be made easier to use and there’s enough capacity to ensure they are fast
  • analysing anonymised data to help us understand how people interact with our website so we can make them better

You can manage these small files and learn more about them from the article, Internet Browser cookies- what they are and how to manage them

Learn how to remove cookies set on your device

There are two types of cookie you may encounter when using our site :

First party cookies

These are our own cookies, controlled by us and used to provide information about usage of our site.

We use cookies in several places – we’ve listed each of them below with more details about why we use them and how long they will last.

Third party cookies

These are cookies found in other companies’ internet tools which we are using to enhance our site, for example Facebook or Twitter have their own cookies, which are controlled by them.

We do not control the dissemination of these cookies. You should check the third party websites for more information about these.

Log files

Log files allow us to record visitors’ use of the site. The CMS puts together log file information from all our visitors, which we use to make improvements to the layout of the site and to the information in it, based on the way that visitors move around it. Log files do not contain any personal information about you. If you receive the HTML-formatted version of a newsletter, your opening of the newsletter email is notified to us and saved. Your clicks on links in the newsletter are also saved. These and the open statistics are used in aggregate form to give us an indication of the popularity of the content and to help us make decisions about future content and formatting.