Nant Gwrtheyrn
Get Flash Player
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Priodasau


Mae pentref Fictorianaidd Nant Gwrtheyrn, sy’n edrych dros arfordir gogleddol Llŷn, yn lleoliad unigryw a hudolus ar gyfer priodas. Fe ddynodwyd y dyffryn diarffordd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac ers i’r pentref gael ei adnewyddu yn ofalus yn 2009, mae’n cynnig cyfleuster heb ei ail ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Wedding Reception Wales North Wales


Mae’r cyfleusterau yn cynnwys capel ar gyfer gwasanaeth crefyddol neu ystafell dderbyn ar gyfer seremoni sifil gyda lle i hyd at 100 o westeion, ystafell fwyta gyda golygfeydd trawiadol o’r môr gyda lle i hyd at 150 yn y wledd briodas a hyd at 300 mewn parti gyda’r nos.

Mae llety ar gael mewn deg ar hugain o ystafelloedd en-suite 4* lle gellir darparu lle ar gyfer 58 o oedolion, ac mae ystafelloedd gwely ar gael ar gyfer 18 ychwanegol yn ein tai hunan-arlwyo. Gellir trefnu llety ychwanegol ar gyfer plant yn ein ystafelloedd teuluol.

Mae ein staff profiadol yn trefnu priodasau trwy gydol y flwyddyn a gallant gynnig cyngor a chymorth gyda llawer o’r trefniadau.

Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig profiad o briodas unigryw i’r briodferch a’r priodfab eu teuluoedd a’u gwesteion mewn lleoliad hardd, ymlaciol.

Pe hoffech fwy o fanylion am briodi yn Y Nant yn 2012, cliciwch ar y pecyn gwybodaeth isod:

Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho


Ydych chi'n trefnu priodas ar gyfer 2013 - Mae Nant Gwrtheyrn yn rhewi prisiau!!


Paratoi Download
os gwelwch yn dda Arhoswch ...

llwytho



Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch mair@nantgwrtheyrn.org.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn