Archebu
Deallwn fod llawer i’w ystyried a’i drafod ac rydym yn croesawu ymweliad cynnar gan gyplau sy’n cynllunio priodas fel y bydd y trefniadau a’r dewisiadau yn glir o’r cychwyn.
Rydym wedi datblygu’r pecyn priodas hwn yn dilyn ein profiadau yn y maes dros nifer o flynyddoedd a chredwn ei fod yn cynnig gwerth da am yr hyn a ystyriwn yn brofiad priodas cwbl arbennig.
Bydd
blaendal o hanner y ffi yn ofynnol wrth archebu i sicrhau eich dyddiad, gyda'r
balans yn daladwy chwe mis cyn ddyddiad eich priodas. Am fwy o fanylion a gwybodaeth, cliciwch ar y pecynnau gwybodaeth priodas isod (mae prisiau yn gynwysiedig o TAW).
Pecyn Priodas 2011
Pecyn Priodas 2012
Ydych chi'n trefnu priodas ar gyfer 2013 - Mae Nant Gwrtheyrn yn rhewi prisiau!!
Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
mair@nantgwrtheyrn.org.

Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334