Arlwyo
Mae staff profiadol Nant Gwrtheyrn yn cynnig amrywiaeth o brydau o fwyd cartref am bris o’ch dewis chi, yn cynnwys canapés i groesawu’r gwesteion a nifer o ddewisiadau ar gyfer y prif bryd a bwffe gyda’r nos, yn ogystal â gwahanol becynnau diodydd cost-effeithiol sy’n cynnwys gwydraid croeso o Pimms/Bucks Fizz neu Champagne, dewis o win gyda’r pryd a gwin pefriog neu Champagne ar gyfer y llwncdestun. Os oes gennych hoff win fe geisiwn gael y gwin hwnnw trwy ein masnachwyr gwin profiadol.
Ni chaniateir rhostio mochyn na ffynhonnau siocled, ac ni chaniateir i chi ddod â’ch bwyd, gwin neu eich diodydd eich hun.
Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
mair@nantgwrtheyrn.org.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334