Cyfleusterau
Cewch gymorth ein tîm o staff profiadol i drefnu priodas yn Nant Gwrtheyrn a byddant yn sicrhau bod eich diwrnod mawr yn un gwirioneddol gofiadwy.
Pecyn Penwythnos Priodas
Rydym yn argymell ein Pecyn Penwythnos Priodas sy’n gofalu mai chi yn unig fydd yn cael defnyddio cyfleusterau’r Nant o’r pnawn Gwener hyd at y bore Sul. Cewch gyrraedd ar y pnawn Gwener a chael digon o amser i ofalu bod popeth yn ei le ar gyfer y wledd, a mwynhau brecwast hamddenol ganol bore Sul cyn gadael.
Eich priodas chi fydd yr unig un ar y safle dros y Sul a chi a’ch gwesteion fydd yr unig rai fydd yn aros yn y
30 stafell gysgu en suite, ac yn cael defnyddio’r capel a’r brif stafell dderbyn. Mae’r pedwar bwthyn hunan arlwyo yn cynnwys
18 gwely ychwanegol os oes angen rhagor o lety ac mae’n bosib trefnu i rai nad ydynt yn dymuno coginio gael brecwast llawn yn y caffi.
Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
mair@nantgwrtheyrn.org.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334