Nant Gwrtheyrn
Get Flash Player
telephone 01758 750334 _     telephone post@nantgwrtheyrn.org
Maint y testun
A
A
A
English : Accommodation
Chwilio          
Help / Cymorth

Twitter Logo Tweets

Llety

Mae llety gwely a brecwast mewn 30 o ystafelloedd 4* en suite yn cael ei ddarparu ar gyfer gwesteion am bris arbennig o £90 y pen am ddwy noson, gydag ystafell yn rhad ac am ddim i’r briodferch a’r priodfab ar noson y briodas. Darperir ystafell yn rhad ac am ddim i’r briodferch ar y nos Wener hefyd, gyda lolfa gerllaw i baratoi ar gyfer y briodas a chadw anrhegion. Rhaid gwarantu y bydd angen llety ar gyfer o leiaf 28 o westeion er mwyn sicrhau’r 30 stafell en suite dros y penwythnos. Rhaid i westeion dalu'r pris arbennig am ddwy noson.

Tai 4


Mae llety ychwanegol ar gael mewn 4 bwthyn hunan-arlwyo gyda lle i 18 o oedolion mewn ystafelloedd gwely en-suite neu gyda chyfleusterau i’w rhannu. Os am aros yn y bythynnod mae’n ofynnol archebu llety am dair noson o nos Wener i nos Sul, gyda’r posibilrwydd o gael brecwast yn y caffi am bris ychwanegol. Mae cyfraddau’r bythynnod yn amrywio yn ôl y tymor – Bythynnod Hunan Arlwyo


Ty 8

Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch mair@nantgwrtheyrn.org.

Datblygwyd gan blahdblah
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334

Caffi Meinir

Neuadd y Nant

Y Plas

Trem y Mynydd

Trem y Môr

Bwthyn y Chwarelwr

Swyddfa a Derbynfa Llety

Capel a Chanolfan Dreftadaeth

Share Mae hyn yn