Seremonïau
Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig dau ddewis ar gyfer seremoni'r briodas
Seremoni Grefyddol yn ein capel
Mae lle i 60 o westeion eistedd yn y capel ar gyfer y seremoni a lle i ragor - cyfanswm o oddeutu 100 - gyda rhai yn sefyll yn y cefn. Gallwn roi gwybodaeth i chi am weinidogion lleol ac mae croeso i unrhyw enwad neu grefydd ddefnyddio’r capel ar gyfer seremoni’r briodas.
Seremoni Sifil mewn rhan o'r brif neuadd
Mae lle i 100 o westeion eistedd yn yr ystafell a lle i ragor gyda rhai yn sefyll yn y cefn. Mae gan yr ystafell a ddefnyddir ar gyfer y seremoni fynedfa ar wahân i’r brif neuadd. Bydd ein staff yn clirio’r cadeiriau ac yn agor y gwahanfur yn ystod y cyfnod rhwng y seremoni a’r wledd (amser i chwi dynnu lluniau) er mwyn cael defnyddio’r neuadd lawn ar gyfer y wledd briodas.
Os ydych yn dymuno cael unrhyw wybodaeth ychwanegol wrth drefnu eich priodas delfrydol yn y Nant, cysylltwch a Mair ar 01758 750 334 neu e-bostiwch
mair@nantgwrtheyrn.org.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334