Teithiau Natur
Mae rhwydwaith o lwybrau sy'n amrywio o ran pellter a gallu yn amgylchynnu'r dyffyrn. Yma cewch cyfres o linciau at wefannau sy'n rhoi mwy o wybodaeth am lwybrau cerdded yr ardal, gan gynnwys ambell i sialens all fod o ddiddordeb:
DIGWYDDIAD ARBENNIG:
Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf; 10:30 Taith Gerdded
Cyfle i gerdded i gopa un o fryngeiri mwyaf trawiadol Cymru o’r Oes Haearn, sef
Tre’r Ceiri a mwynhau golygfeydd bendigedig o Ben-llŷn. Bydd angen lefel dda o ffitrwydd ac esgidiau a dillad addas. Cyfarfod yn y maes parcio uwchben Nant Gwrtheyrn.
(Cyfeirnod Grid – 353441)
Neu beth am grwydro ar hyd un o'r llwybrau yma:
Derek Brockway: Weatherman Walking yn Nant Gwrtheryn
(2 filltir o hyd) http://www.bbc.co.uk/wales/northwest/sites/walks/pages/nantgwrtheyrn.shtml Derek Brockway yn cerdded i fyny Tre'r Ceiri
gan fwynhau golygfeydd bendigedig o ben yr Eifl. http://www.bbc.co.uk/wales/nature/sites/walking/pages/nw_nant_gwrtheyrn.shtml Cliciwch yma er mwyn lawrlwytho llwybr y daith:
Weatherman Walking
Mentrwch i ben Tair Copa'r Eifl
: Garn For, Garn Ganol a Thre'r Ceiri http://www.llyn.info/info/walking/yreifl.php Mae Nant Gwrtheyrn hefyd yn adnabyddus fel safle rhostir, felly gofalwch i edrych allan am bob math o flodau, adar ac anifeiliaid gwyllt yn ystod eich ymweliad. Dyma fap arbennig yn dangos safleoedd Rhostiroedd eraill yn yr ardal:
Mai 5ed 2012 - Taith Gerdded Arfordirol FAWR Gymreig
Trefwyd cyfres o deithiau cerdded gan Cerddwyr Cymru ar y
5ed o Fai 2012, i gyd-fynd â lawnsiad Llwybr Arfordirol Cymru. Dyma lwybr parhaol ar draws y wlad, a fydd o fudd mawr i gerddwyr, beicwyr a marchogwyr.
Mae Nant Gwrtheyrn yn ffodus iawn i fod wedi ei lleoli ar gyrion y llwybr arfordirol ac am fwy o wybodaeth ewch i
http://www.ramblers.org.uk/wales
Er mwyn cael gweld y llwybr, ewch i:
http://www.youtube.com/watch?v=zi_xUzcH-4w&feature=youtu.be
Os oes gennych ddiddordeb mewn teithiau natur o gwmpas yr ardal, cysylltwch ag aelod o’r staff ar 01758 750 334 neu e.bostiwch
Catherine@nantgwrtheyrn.org.