Ymweliadau Grŵp
Allai trefnu dod â grŵp i ymweld â Nant Gwrtheyrn ddim bod yn haws…
- Dysgwch am hanes y safle yn ein Canolfan Dreftadaeth.
- Ymwelwch â bwthyn y chwarelwr i weld sut y byddai ei deulu wedi byw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
- Ewch o gwmpas yr hen bentref chwarelyddol a cherddwch i lawr at olion yr hen chwarel.
- Cerddwch i ben bryngaer Tre’r Ceiri neu ewch am dro ar hyd lwybrau eraill yr ardal i weld y bywyd gwyllt.
- Mwynhewch damaid i’w fwyta yng Nghaffi Meinir tra bydd eich llygaid yn gwledda ar y golygfeydd trawiadol o’ch cwmpas.
Mae Nant Gwrtheyrn yn croesawu ymweliadau gan grwpiau o bob math ond er mwyn gofalu eich bod yn cael y gorau o’ch ymweliad, gofynnwn yn garedig i grwpiau roi gwybod i ni eu bod yn bwriadu ymweld â’r Nant ymlaen llaw. Gallwn roi cyflwyniad i’r safle i ymwelwyr, neu deilwrio taith addas ar gyfer diddordebau’r grŵp, o gael gwybod am eu hymweliad mewn pryd. Mae’n bosibl cael cyflwyniad ar hanes a datblygiad y Nant yn Gymraeg neu yn Saesneg, am bris o
£4.00 y pen. Gellwch hefyd gymryd mantais o Gaffi Meinir, lle mae croeso i grwpiau a phartïon o ymwelwyr. Gellwch ddewis rhwng ein
bwydlen ddyddiol neu
fwffe
.
Beth am gysylltu â ni pan fyddwch yn trefnu eich rhaglen am y flwyddyn?
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catherine ar 01758 750 334 neu e.bostiwch Catherine@nantgwrtheyrn.org.
Rhif y Cwmni 03865538, Cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr
Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, Cymru, LL53 6NL
01758 750 334